Ein prosiectau a ariennir

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n rhedeg nifer o gynlluniau ariannu amrywiol eu bwriad, i:

  •     ariannu ymchwil o ansawdd uchel sy’n darparu tystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu polisi ac arfer iechyd a gofal cymdeithasol;
  •     ariannu ymchwil o ansawdd uchel sy’n amlwg o fudd i’r cyhoedd;
  •     cefnogi meithrin cymhwysedd a gallu mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft trwy helpu unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol ac ariannu unigolion dawnus i wneud ymchwil sy’n arwain at PhD.

Mae’r prosiectau rydyn ni wedi’u hariannu’n cynnwys yr holl grantiau ymchwil y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’u dyfarnu’n uniongyrchol ers ei lansio yn 2015.

Yn yr amser ers hynny, mae Ymchwil iechyd a Gofal Cymru wedi ariannu 189 o brosiectau â gwerth cyfanswm cyfunol o dros £36.6 miliwn.

 

Hidlydd