Ymchwilydd Treialon Clinigol Canser
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan glinigwyr i gymryd hyd at ddeuddydd yr wythnos o sesiynau ymchwil er mwyn datblygu ac arwain gweithgarwch ymchwil a fydd yn hyrwyddo treialon clinigol canser ac ymchwil drosi ym maes yng Nghymru.
Cefndir
Lansiwyd CReSt, y strategaeth Cymru gyfan gyntaf ar gyfer ymchwil canser, yn 2022. Ei nod allweddol yw meithrin gallu a màs critigol o ymchwil o amgylch chwe thema, er mwyn cryfhau a chanolbwyntio’r sylfaen ymchwil yng Nghymru. Un o'r themâu hyn yw treialon clinigol canser. Mae'r fenter Mynd i’r afael â chanser trwy ymchwil a arweinir gan Lywodraeth Cymru hefyd yn nodi'r angen i gynyddu capasiti academaidd clinigol yng Nghymru er mwyn cryfhau'r sylfaen ar gyfer treialon clinigol, yn enwedig y rhai a arweinir o Gymru.
Mae'r alwad hon am ddatganiadau o ddiddordeb gan glinigwyr sydd â phrofiad o gynnal gwaith ymchwil wedi'i chynllunio i gynnig amser penodol ar gyfer cynnal gwaith ymchwil sy'n helpu unigolion llawn cymhelliant i ehangu ar rolau fel prif neu gyd-ymchwilwyr treialon canser Cymru ac ymchwil drosi sy'n gysylltiedig â threialon y dyfodol, neu symud ymlaen i mewn iddynt.
Pwy sy’n gymwys
Mae'r cyllid CReSt hwn (a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru) ar gyfer clinigwyr a gyflogir gan y GIG sy'n gweithio ym maes canser yng Nghymru y mae’r canlynol yn berthnasol iddynt:
profiad ymchwil presennol fel prif a/neu gyd-ymchwilwyr astudiaethau canser, a
llai na deuddydd yr wythnos o sesiynau ymchwil yng nghynllun eu swydd yn ystod y cyfnod amser y gofynnir am sesiynau’n rhan ohono.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgynghorwyr mewn oncoleg, llawfeddygaeth, a/neu ddisgyblaethau eraill sy'n gysylltiedig â chanser megis gofal lliniarol ac ymarfer cyffredinol, a hefyd uwch aelodau o grwpiau proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes canser, gan gynnwys nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, gwyddonwyr clinigol, neu eraill sydd mewn sefyllfa i arwain treialon canser/ymchwil drosi o Gymru. Anogir ymgeiswyr sydd â gradd uwch ôl-raddedig bresennol (MD neu PhDs) i wneud cais, er bod clinigwyr heb raddau uwch sy’n cynnal treialon hefyd yn gymwys.
Gall ymgeiswyr ofyn am hyd at ddeuddydd (hyd at 4 sesiwn gweithgaredd wedi'u rhaglennu) yr wythnos o amser ymchwil, yn dibynnu ar raddfa'r gweithgaredd y maent yn bwriadu ymgymryd ag ef. Os oes gan ymgeiswyr rywfaint o amser ymchwil eisoes o ffynonellau eraill (<2 ddiwrnod yr wythnos), gallant ofyn i gynyddu hyn i hyd at gyfanswm cyfunol o ddeuddydd yr wythnos. Nid yw unigolion sydd â deuddydd neu fwy o amser ymchwil eisoes yn gymwys i wneud cais.
Costau ac amserau a ganiateir
Byddai cyllid CReSt Canolfan Ymchwil Canser Cymru hwn yn talu cyflog y clinigwr am hyd at ddeuddydd yr wythnos tan ddiwedd mis Mawrth 2027. Sylwer na fydd y cyllid hwn yn cynnwys gorbenion sefydliadol. Ni fydd unrhyw gostau eraill nad ydynt yn gyflog yn cael eu talu.
Y dyddiad dechrau cynharaf ar gyfer y sesiynau hyn a ariennir gan CReSt fyddai Medi 2025, ond gofynnwn i ymgeiswyr gytuno ar ddyddiad dechrau realistig gyda'u cyflogwr cyn gwneud cais.
Y dyddiad gorffen diweddaraf ar gyfer y sesiynau hyn a ariennir gan CReSt fyddai diwedd mis Mawrth 2027, pan mae'r cyllid hwn yn dod i ben.
Gweithgareddau ac allbynnau disgwyliedig
Disgwylir y bydd y cyllid hwn yn cefnogi'r clinigwr i ymgymryd â gwaith datblygu (+/- darparu) treialon clinigol canser academaidd a/neu ddiwydiant a gweithgarwch trosiadol sy'n gysylltiedig â threialon. Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd ddod â phobl a thimau at ei gilydd ledled Cymru a thu hwnt fel rhan o'r gwaith hwn.
Bydd deiliaid y swydd yn gallu cysylltu ag ymchwilwyr academaidd yn themâu CReSt i ddatblygu treialon ac unrhyw brosiectau trosiadol cysylltiedig, ac i ymuno â Rhwydwaith ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa neu ar ganol eu gyrfa Canolfan Ymchwil Canser Cymru Lle bo'n berthnasol, gall deiliaid hefyd weithio gyda Chanolfan Ymchwil Canser Caerdydd ar dreialon a gefnogir gan ffynonellau cyllid masnachol.
Yn dibynnu ar gam datblygu'r gwaith, byddai'r allbynnau yn cynnwys: cyflwyno ceisiadau am gyllid y mae'r unigolyn yn eu harwain (prif ymchwilydd) neu'n gyd-ymgeisydd (cyd-ymchwilydd) arnynt; recriwtio cleifion cysylltiedig i dreialon a arweinir yng Nghymru; cyflwyniadau o fethodoleg neu ganlyniadau; a chyflwyno cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid y mae'r unigolyn yn awdur arnynt.
Bydd gofyn i'r unigolyn roi diweddariadau ar weithgarwch ac allbynnau er mwyn adrodd bob chwarter ac ar ddiwedd y flwyddyn o ran Canolfan Ymchwil Canser Cymru i'r ariannwr, ac efallai y gofynnir iddo fynd i gyfarfodydd grŵp arweinyddiaeth Canolfan Ymchwil Canser Cymru pan fo angen i roi diweddariad ar lafar.
Cyfle i ymestyn gweithgarwch treialon masnachol (Ebrill 2027 tan ddiwedd Mawrth 2029)
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd gyllid rhaglen buddsoddi ymchwil fasnachol ar gael i gefnogi gweithgareddau sy'n hybu’r gwaith o ddarparu ymchwil fferyllol fasnachol yng Nghymru. Gan fod y nod hwn yn ategu CReSt, gellir caniatáu cyfnod ymgeisio hirach i ymgeiswyr yn rhan o'r alwad amser ymchwilio hwn gan CReSt os gallan nhw ddangos sut y bydd y gweithgareddau penodol a gynhigiwyd (yn ystod unrhyw ran o'u cyfnod) yn hyrwyddo ymchwil fferyllol fasnachol yng Nghymru.
Os ydych chi'n gwneud cais am gyfnod y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2027, nodwch hyn ar adeg y cais, gan amlinellu’r gweithgareddau arfaethedig a sut mae hynny'n gymesur â lefel y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen (hyd at 2 ddiwrnod/wythnos). Os yw'r gweithgareddau'n arwain yn uniongyrchol at eich rôl yn Brif Ymchwilydd treial masnachol, nodwch yn glir sut y bydd incwm treial masnachol ar sail adfer costau yn cymryd lle’r cyllid hwn yn ystod y cyfnod estynedig.
Sylwer: Gan y byddai'r estyniad hwn yn dod o ffynhonnell gyllido wahanol, bydd yn rhaid i Fwrdd Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru ei adolygu os yw panel CReSt yn ei argymell.
Efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth arnyn nhw i gefnogi eu penderfyniad. Nid yw eich cais i gael eich ystyried, neu i beidio â chael eich ystyried, ar gyfer yr estyniad hwn yn effeithio ar y tebygolrwydd y bydd eich cais i CReSt am amser ymchwil hyd at Fawrth 2027 yn llwyddo neu beidio.
Sut i wneud cais am sesiynau a ariennir gan CReSt (+/- gweithgarwch treial masnachol)
I wneud cais, bydd rhaid i chi gyflwyno’r canlynol:
Eich CV, gan gynnwys rhestr o gyhoeddiadau academaidd
Datganiad personol, sy'n crynhoi: - nifer y diwrnodau/sesiynau yr wythnos rydych yn gofyn am arian CReST - y dyddiad dechrau arfaethedig (mis Medi 2025 ymlaen) a'r dyddiad gorffen (erbyn diwedd mis Mawrth 2027 fan hwyrach); - gradd eich rôl yn y GIG; - eich profiad ymchwil a'ch diddordebau (uchafswm o 200 o eiriau); - y gwaith treialon clinigol academaidd a/neu ddiwydiant rydych yn bwriadu ei ddatblygu hyd at mis Mawrth 2027 (uchafswm o 400 o eiriau) - Os ydych chi'n gwneud cais am gyllid estynedig (ar gyfer unrhyw gyfnod ychwanegol rhwng mis Ebrill 2027 a hyd at ddiwedd mis Mawrth 2029), pa weithgareddau sy'n cefnogi twf ym maes cyflawni ymchwil fasnachol yng Nghymru a’r cyfiawnhad dros yr amser ychwanegol y gwneir cais amdano. Ychwanegwch nifer y dyddiau’r wythnos a'r hyd (dim mwy na 400 gair). - unrhyw lwybrau y gallwch ddilyn cyllid dilynol drwyddynt i barhau â'ch gwaith ymchwil wedi hynny (uchafswm o 150 o eiriau)
Llythyr o gefnogaeth gan eich rheolwr llinell a'ch sefydliad cyflogi yn nodi eu bod yn barod i sicrhau bod amser ar gael yn eich cynllun swydd i chi ymgymryd â'r sesiynau ymchwil hyn, a'u bod yn ymwybodol na fydd y gorbenion yn cael eu cynnwys.
Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch wcrc@caerdydd.ac.uk.
Cyflwynwch eich cais erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 1 Awst 2025, drwy ebostio DCG-HR@caerdydd.ac.uk gan ddefnyddio'r llinell bwnc 'Cais am amser ymchwil clinigol' ym mhennawd yr ebost.
Disgwylir y bydd y gwahoddir ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad ar Teams ar ddydd Iau 14 Awst 2025.