Ymgeisiwch nawr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG

Ymgeisiwch nawr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG

14 Medi

*Mae'r alwad ariannu hon bellach ar gau i geisiadau*

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi bod rownd 2020 o Ddyfarniadau Amser Ymchwil y GIG nawr ar agor.

Mae’r cynllun ar agor i staff GIG Cymru, neu staff ar gontract â GIG Cymru (fel meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr clinigol) ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol neu iechyd cyhoeddus. Ei nod yw meithrin gallu a chapasiti ymchwil yn y GIG trwy gynnig cyfle i staff ymgeisio am amser wedi’i ddiogelu ar gyfer bwrw ymlaen â gweithgaredd ymchwil.

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg mewn datblygu eu sgiliau ymchwil a dylen nhw fod yn anelu at fod naill ai’n Ben Ymchwilydd, yn arwain ymchwil o ansawdd uchel ar lefel leol, neu’n Brif Ymchwilydd, yn datblygu ac yn arwain astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.

Mae’r cyfnod ymgeisio’n cau am 16:00 Dydd Gwener 23 Hydref 2020.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ac ymgeisio trwy ein tudalennau Ariannu.