Ymgynghoriad ar gynnwys Fframwaith Ymchwil a Datblygu draffy y GIG
6 Mai
Yn ystod gaeaf/gwanwyn 2023, datblygwyd fframwaith ymchwil a datblygu’r GIG drwy broses cyd-greu gyda rhanddeiliaid allweddol, wedi’i hwyluso gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r fframwaith drafft yn amlinellu sut beth yw ‘rhagoriaeth ymchwil’ o fewn sefydliadau’r GIG yng Nghymru lle mae ymchwil yn cael ei gofleidio, ei integreiddio i wasanaethau, a lle mae’n rhan greiddiol o ddiwylliant y sefydliad.
Hwyluswyd y broses cyd-greu gyda rhanddeiliaid allweddol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy 6 gweithdy yn ystod gaeaf 2022/23. Gofynnwyd i gynrychiolwyr yn y gweithdai am nodweddion allweddol sefydliadau’r GIG sy’n cofleidio ymchwil, beth arall sydd ei angen i alluogi sefydliadau’r GIG i integreiddio ymchwil i ofal iechyd a’r camau nesaf i sicrhau bod y fframwaith yn cael ei ddatblygu a’i gyflenwi’n llwyddiannus.
Darperir y themâu allweddol o'r gweithdai sy'n ymwneud â nodweddion allweddol sefydliad ymchwil gweithredol yn y papur: Themâu allweddol o'r gweithdai i ddatblygu Fframwaith Ymchwil a Datblygu'r GIG. Mae Fframwaith Ymchwil a Datblygu drafft y GIG bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad eang am gyfnod o dair wythnos ym mis Mai 20233.
Gwahoddir yr holl randdeiliaid i anfon adborth ar y fframwaith erbyn 17:00 ar 1 Mehefin 2023.
Os hoffech drafod y themâu allweddol o’r gweithdai ymgynghori neu’r fframwaith drafft, anfonwch e-bost at Helen Grindell.
Unwaith y bydd yr adborth wedi’i dderbyn a’r fframwaith wedi’i gwblhau, y nod yw cyhoeddi’r fframwaith ym mis Mehefin 2023 a datblygu cynlluniau gweithredu lle bo angen, gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a sefydliadau’r GIG yn cydweithio i gyflawni nodweddion sefydliadau sy’n cefnogi ymchwil.