pharmacist

Ymgynghoriad i Strategaeth Ymchwil Fferylliaeth drafft y DU wedi’i lansio

3 Medi

Rydym yn chwilio am bobl i ymateb o bob rhan o'r gymuned iechyd a gofal i roi adborth ar Strategaeth Ymchwil Fferylliaeth ddrafft y DU, sy'n cynnig fframwaith i gryfhau arweinyddiaeth ymchwil a gwreiddio ymchwil yn ehangach ymhlith fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol.

Mae rolau'r ddau broffesiwn yn ehangu'n gyflym ac er mwyn gwireddu eu potensial llawn o fewn cyd-destun gofal iechyd sy'n datblygu, mae angen diwylliant bywiog, ymchwil-weithredol a fydd yn cynhyrchu'r dystiolaeth i gefnogi ymarfer, ysgogi  arloesedd a hyrwyddo gofal cleifion.

Mae hon yn her y mae Grŵp Cynghori Ymchwil Fferylliaeth y DU (PRAG) yn ceisio mynd i’r afael â hi ar y cyd. Sefydlodd Prif Swyddogion Fferyllol y DU y Grŵp yn 2024 gydag aelodaeth eang sy'n cynnwys pob maes a sector ymarfer fferylliaeth.

Erbyn hyn, mae'r Grŵp wedi cynhyrchu Strategaeth Ymchwil Fferylliaeth ddrafft y DU ar y cyd, ac mae'n ceisio ymgysylltu mor eang â phosibl i gael dealltwriaeth ac adborth gan randdeiliaid.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 23:59 ddydd Gwener 12 Medi 2025 a bydd Grŵp Cynghori Ymchwil Fferylliaeth y DU yn ystyried yr adborth o'r ymarfer ymgysylltu ac yn paratoi strategaeth wedi'i diweddaru yr hydref hwn.