Menyw yn siarad ar y ffôn

A fydd ymgynghoriadau meddygon teulu o bell yn trawsnewid gofal sylfaenol yn y dyfodol?

31 Ionawr

Mae arolwg a gynhaliwyd gan Ganolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (PRIME), rhan o’r gymuned a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi datgelu bod gan bobl â lefelau addysg uwch lefelau uwch o foddhad ag ymgynghoriadau o bell yn ystod y pandemig o gymharu â rhai sydd â lefelau addysg is.

Nod yr astudiaeth, a arweiniwyd gan Kate Brain, Athro Seicoleg Iechyd a PRIME, oedd deall canfyddiadau pobl o ymgynghoriadau o bell yn y DU yn ystod pandemig COVID-19 a nodi anghydraddoldebau canlyniadol posibl.

Meddai'r Athro Brain:  "Roedd y modd o gael mynediad at ofal sylfaenol wedi newid, gydag ymgynghoriadau o bell yn dod yn fwy eang yn ystod pandemig COVID-19.

"Roeddem yn edrych ar batrymau cysylltiadau rhwng boddhad hunan-gofnodedig pobl ag ymgynghori o bell ac ystod o newidynnau demograffig.

"Gall y canfyddiadau hyn helpu i lywio'r defnydd o ymgynghoriadau o bell, a'u haddasu mewn gofal sylfaenol ar gyfer grwpiau cymunedol eraill yn y dyfodol."

Casglodd tîm y prosiect ddata arolwg yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2021 gan dros 1,400 o oedolion yn y DU, a nododd eu bod wedi gofyn am gymorth o bell gan eu meddygon yn ddiweddar.

Atebodd y cyfranogwyr gwestiynau am eu cefndir demograffig a'u boddhad gydag ymgynghoriadau meddygon teulu o bell.

Efallai y bydd angen cymorth pellach ar unigolion, sydd â lefelau is o addysg, gydag ymgynghoriadau o bell mewn gofal sylfaenol er mwyn gwella’u boddhad â'r mathau hyn o ymgynghori, a gellid sicrhau bod ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ar gael os yw'n well ac yn ymarferol.

Fodd bynnag, mae angen ymchwil pellach i ddeall pa ffactorau all fod wrth wraidd y cysylltiad rhwng addysg a boddhad ag ymgynghoriadau meddygon teulu o bell, ac a yw hyn wedi parhau y tu hwnt i’r pandemig.