Ymosodiad y celloedd T
Mae ymchwil newydd o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod bod siawns cleifion o ymladd canser yn gwella’n sylweddol pan fo moleciwl o’r enw L-selectin yn rhoi hwb i’r celloedd T gwrth-ganser sydd eisoes yn eu cyrff.
Hyd yma, dim ond wrth ymladd mathau arbennig o Lewcemia y mae triniaeth sy’n harneisio pŵer celloedd T cleifion, sef y celloedd sy’n ymosod ar firysau a chanserau, wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n haws i’r celloedd T ddod o hyd i’r celloedd canseraidd sy’n cylchredeg yn y gwaed, ac ymosod arnyn nhw, tra’i bod yn fwy anodd o lawer trin canserau cadarn.
Mae tîm yr astudiaeth, a ariennir yn rhannol gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn defnyddio’r wybodaeth bod L-selectin yn helpu celloedd T i symud o’r llif gwaed i’r feinwe lidiog i helpu i ymladd haint, er mwyn gweld os bydd cynyddu faint o’r moleciwl sydd yn y celloedd T yn cael yr un effaith pan fydd celloedd T yn ymosod ar ganserau cadarn.
Meddai’r Athro Ann Ager, o Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd Prifysgol Caerdydd: “Roedd ein canlyniadau’n rhyfeddol. Er bod mwy o L-selectin wedi gwella gallu’r celloedd T i ymladd canserau cadarn, doedd hyn ddim oherwydd targedu gwell [sef gallu’r celloedd T i ddod o hyd i feinwe lidiog].
“Aeth y celloedd T a oedd wedi’u haddasu i mewn i’r canserau cadarn cyn pen yr awr gyntaf, a dal ati i gronni y tu mewn i’r canserau cadarn am dros wythnos, gan awgrymu bod L-selectin hefyd yn chwarae rhan mewn ysgogi a chadw celloedd T gwrth-ganser y tu mewn i ganserau.”
Gallai hyn olygu bod posibl defnyddio’r math hwn o therapi, o’r enw imiwnotherapi, i drin mwy o fathau o ganser. “Mae hyn yn newyddion gwych gan fod y math hwn o driniaeth yn fwy penodol, ac nid yw’n niweidio celloedd iach,” meddai’r Athro Ager.
Mae’r ymchwil hon felly wedi datgelu rôl newydd ar gyfer L-selectin mewn therapi canser, un a allai ddarparu imiwnotherapi ar gyfer canserau cadarn nad oes modd eu trin ar hyn o bryd â therapïau wedi’u seilio ar gelloedd T.
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 7, Tachwedd 2019