Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd

Ymunwch â phanel cyllido dyfarniad personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

22 Gorffennaf

Beth am ymuno â phanel ariannu gwobrau personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o baneli ariannu gwobrau personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru?

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r cyfle i ymuno ag un o’n paneli ariannu Gwobrau Personol.  Mae’r Gyfadran eisiau recriwtio 50 - 60 o aelodau panel proffesiynol i’n cefnogi wrth i ni lansio ein cyfres o wobrau personol newydd.

Rydyn ni’n sefydlu cronfa o aelodau paneli, ac o’r rhain fe fyddwn ni’n dewis aelodau ar gyfer panel gan ddibynnu ar eu meysydd arbenigedd, eu lleoliad daearyddol, y sefydliad sy’n eu cyflogi a phwy sydd ar gael. Bydd y gronfa’n cynnwys unigolion â sbectrwm eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i gael barn amlochrog o anghenion ymchwil ac asesiad ymchwil. Byddwn ni’n anelu at gael mewnbwn academyddion, arbenigwyr mewn pynciau penodol, staff clinigol, rheolwyr gwasanaethau, gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus proffesiynol. Bydd ein paneli’n gweithio gyda ni i sicrhau bod pob deiliad gwobr bersonol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n datblygu, yn arwain ac yn arloesi wrth gynnal ymchwil o ansawdd uchel i glefydau, triniaethau, gwasanaethau a deilliannau a fydd yn gallu gwella, a hyd yn oed achub, bywydau pobl. 

Bydden ni’n croesawu datganiadau o ddiddordeb oddi wrth pob proffesiwn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac ar unrhyw gyfnod yn eu gyrfa ymchwil. Bydden ni hefyd yn croesawu datganiadau o ddiddordeb oddi wrth aelodau paneli presennol a fyddai â diddordeb mewn parhau i gael eu cynnwys. I’r rheini sydd ar ddechrau eu gyrfa, byddwn ni’n gallu darparu “system gyfeillio” i’ch cefnogi trwy eich proses panel ariannu gyntaf.

Mae aelodaeth yn agored i bobl ledled y Deyrnas Unedig ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth bob adran o’r gymuned. 

Dewisir cadeiryddion ar gyfer pob panel ar sail profiad a maes arbenigedd. Os ydych chi’n hapus i fabwysiadu rôl fel Cadeirydd neu Ddirprwy Gadeirydd, a fyddech cystal â nodi hyn pan fyddwch chi’n mynegi diddordeb.

Rhaid i ymgeiswyr fod â:

  • Chefndir mewn gwaith clinigol, gofal iechyd, gofal cymdeithasol neu iechyd cyhoeddus perthnasol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd, a’r angen am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a/ neu ymchwil iechyd cyhoeddus.
  • Profiad cyfredol neu ddiweddar o weithio yn sectorau iechyd a gofal cymdeithasol y DU ar lefel uwch, neu gyda’r sectorau hyn.
  • Profiad ar lefel uwch yn eu maes arbenigedd.
  • Cymwysterau a chofrestriadau proffesiynol perthnasol.
  • Cefndir academaidd a hanes o gyflawniadau ac arweinyddiaeth ymchwil, lle bo’n briodol (nid oes galw am hyn ar gyfer pob panel).

Rhaid i ymgeiswyr allu:

  • Deall, adolygu a chrynhoi gwybodaeth o ddogfennau hir.
  • Cymryd rhan yn hyderus ac yn adeiladol mewn cyfarfodydd a thrafodaethau grŵp.
  • Cyfathrebu a rhannu adborth a meddyliau yn eglur.
  • Defnyddio system gwybodaeth reoli gyfrifiadurol a bod yn hyddysg mewn cyfrifiadura.

Rôl a chyfrifoldebau aelodau

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n disgwyl y bydd aelodau paneli:

  • yn ymddwyn yn unol â’r Cylch Gorchwyl cytunedig ar gyfer pwyllgorau.
  • yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd trwy ddarllen papurau’r agenda a cheisiadau ymchwil ymlaen llaw ac yn codi unrhyw faterion sydd angen eu hegluro â staff y Gyfadran.
  • yn ymgymryd ag adolygiad manwl o geisiadau ynghyd â phapurau eraill, fel bo’r rôl yn galw amdano, ac yn rhoi adborth ac yn cyfrannu at drafodaethau cyffredinol ynglŷn â rhinweddau pob cais yn y cyfarfod.
  • yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn bod yn aelod gweithredol o’r panel.
  • yn cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau a fydd yn digwydd yn ystod cyfarfodydd, gan dynnu ar wybodaeth a phrofiad cyffredinol, gan ystyried y papurau a ddarperir.
  • yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, datblygu a chefnogi priodol.
  • yn datgan pan fydd eu buddiannau’n gwrthdaro, yn unol â phrotocolau’r panel ac yn unol â chyfarwyddiadau’r Cadeirydd.
  • yn cynnal cyfrinachedd papurau’r agenda, trafodaethau a phenderfyniadau a wneir.
  • yn cysylltu’n brydlon â thîm gweinyddu’r Gyfadran ynglŷn â materion gweinyddol o ran y cyfarfod, fel cyflwyno adolygiadau, ymrwymo i ddyddiadau cyfarfodydd a chadarnhau y byddan nhw’n eu mynychu.
  • yn cefnogi cadeirydd y panel trwy gyfrannu at gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr.

Ymrwymiad o ran amser a lleoliad
Cynigir y byddai aelodau’n cael eu cynnwys mewn o leiaf un panel gwobrau y flwyddyn. Cynhelir mwyafrif y cyfarfodydd paneli yn rhithwir, ond bydd rhai paneli yn cyfarfod wyneb yn wyneb a chynhelir y cyfarfodydd hyn yng Nghaerdydd. Bydd yna amser paratoi a fydd ei angen cyn cyfarfodydd i adolygu a sgorio ceisiadau. Gallai cyfarfodydd bara am hyd at ddiwrnod llawn neu ddau hanner diwrnod, gan ddibynnu ar y wobr a’r cyfnod yn y broses asesu. 

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Gan fod y Gyfadran wedi ymrwymo i gymuned gefnogol, gynhwysol a chadarnhaol, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n gwerthoedd a’n llwyddiant. Fel rhan o’n prosesau recriwtio, bydd gofyn i bob aelod o baneli a phob ymgeisydd lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Hyfforddiant
Bydd disgwyl i bob aelod gwblhau hyfforddiant mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a rhagfarn ddiarwybod, yn ogystal â hyfforddiant ar y broses asesu cyn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd paneli. 

Sut i ymgeisio
I gael eich cynnwys yn y cyfle cyffrous hwn, a fyddech cystal â darllen y wybodaeth am:

cyn llenwi’r ffurflen mynegi diddordeb. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at dîm y Gyfadran yn research-faculty@wales.nhs.uk

I wneud cais, cwblhewch ffurflen Datganiad o Ddiddordeb gan Banel Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru