HRH The Countess of Wessex and Professor Iain Whitaker

Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe

8 Mawrth

Heddiw, ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.

Ymchwil i adlunio wynebau

Y llynedd, lansiwyd y rhaglen RECONREGEN gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r fenter tair-blynedd yn ymchwilio i bioargraffu 3D arloesol o gartilag y trwyn a’r glust gan ddefnyddio celloedd dynol, yn ogystal ag astudiaeth fwyaf y byd o sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl.

Aeth Ei Huchelder Iarlles Wessex, ynghyd â Llysgennad arweiniol The Scar Free Foundation, Simon Weston CBE, o amgylch y labordy ymchwil pwrpasol, cawsant arddangosiad o'r argraffydd 3D, a chwrdd â chleifion a allai elwa o'r ymchwil arloesol hwn, gan gynnwys Llysgenhadon Sefydliad Scar Free, Jaco Nel a oroesodd sepsis gyda chanlyniadau a newidiodd ei bywyd, Elizabeth Soffe a oroesodd losgiadau difrifol yn 6 mis oed, a Tina Morgan, 55, o Ferthyr Tudful a oroesodd ganser y croen.

Gallai ymchwil newid fy mywyd

Mae gan Simon Weston CBE, prif Lysgennad The Scar Free Foundation greithiau dros 85-90% o’i gorff ar ôl i fom daro ei long yn rhyfel y Falklands. Meddai: “Mae’r cyfle i ailadeiladu hyder pobl sydd ag anffurfiadau wyneb a chorff yn aruthrol. Ni allwch newid yr hyn sy'n digwydd i bobl, ond trwy'r ymchwil a'r datblygiad hwn, gallwch newid sut y gall eu dyfodol edrych."

Yn fam i ddau o blant, cafodd Tina ddiagnosis o ganser y croen ar ei chlust chwith yn 2010. Roedd llawdriniaeth i dynnu'r canser yn llwyddiannus, ond roedd yn golygu bod Tina wedi colli'r rhan fwyaf o ran uchaf ei chlust a nawr dim ond y llabed sydd ganddi ar ôl.

Hoffai Tina gael rhywbeth i gymryd lle’r rhan uchaf o’i chlust, ac mae wedi edrych yn flaenorol ar driniaeth gan ddefnyddio cartilag o rywle arall yn y corff i ail-greu’r glust.

“Ond doeddwn i ddim eisiau cael llawdriniaeth mewn gwirionedd a chael gwared ar unrhyw un o'm hasennau, felly pan welais yr ymchwil yn cael ei gynnal yn Abertawe, roeddwn i'n meddwl ei fod yn ymddangos yn ffordd fwy ymarferol i helpu nid yn unig fi ond pobl eraill sy'n byw bob dydd gyda chreithiau difrifol ar yr wyneb. Gallai hyn newid ein bywydau.”

Bydd y rhaglen arloesol yn datblygu bioargraffu 3D gan ddefnyddio bôn-gelloedd/genedlyddol cartilag dynol penodol a nanocellwlos (sy’n deillio o blanhigion) fel ‘bioinc’ ar gyfer adlunio’r wyneb. Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i benderfynu ar y cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd, a fydd yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer adlunio wynebau.

Mae'r ymchwil yn cael ei arwain gan yr Athro Iain Whitaker - sy'n bennaeth y grŵp ymchwil llawfeddygaeth blastig mwyaf yn y DU - Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, rhan o dîm Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ac Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Iain Whitaker

Dywedodd: “Roedd yn wych gallu arddangos yr ymchwil arloesol sy’n digwydd yma yn Abertawe ac roedd yn anrhydedd cael sgwrsio â’r Iarlles am y gwaith rydym yn ei wneud a sut y gallai newid bywydau rhai o’r cleifion a’r llysgenhadon sydd yma heddiw."

“Rwyf wedi datblygu’r Grŵp Ymchwil dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae chwe mis wedi mynd heibio ers i ni lansio’r rhaglen. Yn dilyn recriwtio cyflenwad llawn o staff, mae ein hymchwil yn cyflymu. Rydym yn datblygu priodweddau mecanyddol y bioinc ac yn profi'r proffil biogydnawsedd a diogelwch i'w ddefnyddio wrth adlunio wynebau. Ochr yn ochr â'r ymchwil peirianneg meinwe a Bioargraffu 3D, rydym yn dadansoddi'n feirniadol llwybrau cleifion mewn rheoli canser y croen - a chan gofio’r costau personol, iechyd, economaidd ac amgylcheddol enfawr, rydym yn defnyddio technolegau blaengar fel prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial i chwyldroi llwybrau cleifion. Bu’r buddsoddiad hwn yn chwyldroadol o ran sicrhau fod ein hymdrechion ymchwil yn bwrw ymlaen, gyda’r nod yn y pen draw o gynnig opsiynau triniaeth arloesol i gleifion a recriwtio rhagor o ymchwilwyr o safon fyd-eang i Gymru yn y dyfodol agos iawn.”

Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dywedodd: “Mae ymweliadau fel heddiw yn amlygu pa mor bwysig yw’r gwaith hwn, nid yn unig yng Nghymru ond ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang. Mae'r prosiect hwn yn unigryw nid yn unig o safbwynt mynd i'r afael ag effeithiau corfforol creithiau, ond hefyd yr heriau seicolegol, sydd yr un mor bwysig.

“Gan weithio gyda The Scar Free Foundation, bydd y buddsoddiad hwn yn darparu’r adnoddau i gyflymu’r ymchwil arloesol hwn, gan anelu at newid bywydau cannoedd o bobl yn y dyfodol.”

Yr Athro Syr Bruce Keogh o’r Scar Free Foundation

“Mae rhoi’r gallu i lawfeddygon yn y dyfodol i adlunio wynebau pobl drwy ddefnyddio eu celloedd eu hunain heb fod angen creithiau pellach yn chwyldroadol. Roedd yn anrhydedd cael y cyfle i gyflwyno ein hymchwil arloesol i Ei Huchelder Iarlles Wessex heddiw.

“Rydym yn gwybod y gall creithiau gael effaith emosiynol a chorfforol hirdymor ar bobl a bydd yr astudiaeth hon hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl yn arbennig, gan arwain at driniaethau newydd. Mae’r ymchwil hwn sy’n newid bywydau yn rhan o’n hymrwymiad i gyflawni iachâd heb greithiau o fewn cenhedlaeth i’r miliynau o bobl sy’n byw gyda chreithiau yn y DU a ledled y byd.”

Yr Athro Ann John, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Dywedodd: “Mor aml mae'r corfforol a meddyliol yn cael eu gwahanu mewn gofal iechyd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n gwybod bod y ddau yr un mor bwysig i adferiad. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r cydweithrediad ymchwil arloesol hwn sy’n pontio bylchau ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â’r heriau a brofir gan y rhai â chreithiau ar yr wyneb. Mae'r ganolfan wedi dod â llawfeddygon ac ymchwilwyr iechyd meddwl ynghyd o dan yr un to. Roedd yn anrhydedd cael trafod hyn gyda’r Iarlles, sydd wedi bod yn hyrwyddo lleihau’r stigma a deimlir gan y rhai ag anawsterau iechyd meddwl wrth iddynt ymdrin â rhwystrau i geisio cymorth, a sut rydym yn ymateb i’r rhai sy’n gwneud hynny.”