Meddyginiaeth

Ymyriadau y mae nyrsys yn eu harwain i leihau effaith adweithiau gyffuriau ar gyfer oedolion hŷn mewn cartrefi gofal

Fe allai astudiaeth y mae Cymru’n ei harwain, sy’n ymchwilio i'r defnydd o feddyginiaethau lluosog mewn cartrefi gofal, ostwng nifer y derbyniadau i ysbytai yng Nghymru.

Mae adweithiau niweidiol i gyffuriau’n gyfrifol am 5-8% o’r holl dderbyniadau sydd heb eu cynllunio i ysbytai yn y DU, ac yn costio £1.5-2.5 biliwn y flwyddyn i’r GIG. Mae’r rhan fwyaf oherwydd monitro gwael, neu ragnodi gwael ac mae’n bosibl eu hatal.

Mae amlgyffuriaeth, sef defnyddio meddyginiaethau lluosog neu amhriodol, yn gallu o bosibl niweidio oedolion hŷn trwy achosi codymau, nam gwybyddol, anymataliaeth, ceg sych, poen neu gyfog. Mae hon yn broblem yn benodol mewn cartrefi gofal lle mae gor-ragnodi meddyginiaethau’n digwydd yn achos hyd at 50% o bobl.

Fe fydd e-astudiaeth PADRe yn dadansoddi digwyddiadau y mae’r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu wedi cael gwybod amdanyn nhw, sy’n ymwneud ag amlgyffuriaeth sy’n ymwneud â phobl hŷn. Bydd fferyllydd, meddyg a nyrs yn cael eu hyfforddi i ddadansoddi adroddiadau diogelwch er mwyn datblygu model a fydd yn sail i ymyrraeth newydd y bydd nyrsys yn ei harwain i fonitro a rheoli rheolaeth meddyginiaethau er mwyn nodi adweithiau niweidiol i gyffuriau.

Cydweithrediad rhwng Andrew Carson-Stevens, Arweinydd Ymchwil Diogelwch Cleifion, Canolfan PRIME Cymru, yr Athro Sue Jordan, Prifysgol Abertawe a chydweithwyr yng Nghanolfan Adnoddau Moddion Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd ydy’r astudiaeth.

Meddai’r Athro Jordan: “Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gyda chydweithwyr i ddatblygu ffordd i atal problemau rhag codi yn sgil rhagnodi meddyginiaethau ac, yn y pen draw, i ostwng niferoedd y derbyniadau i ysbytai oherwydd adweithiau niweidiol i feddyginiaethau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.primecentre.wales/nurse-led-interventions


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 4, Mehefin 2018