Woman in scrubs using computer

Yn awr ar gael: RCBC Cymru arian i gefnogi Cymrodoriaeth Cyntaf i Ymchwil a PhD ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

20 Hydref

Mae’n bleser gan RCBC Cymru gyhoeddi bod gwobrau ariannol yn awr ar gael ar gyfer 2021/2022 – pedwar Cymrodoriaeth Cyntaf i Ymchwil ac un Gymrodoriaeth PhD, y cyfan i gychwyn ym mis Ebrill 2022.

Caiff RCBC ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda’r bwriad o gynyddu maint ac ystod gwaith ymchwil ym meysydd proffesiynol nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth a meysydd perthynol i iechyd, ac hefyd gyfrannu tuag at ddatblygu swyddi academaidd clinigol.

Gellir cyfeirio ymholiadau ynghylch unrhyw un o’r uchod at Marina McDonald, RCBC Cymru, Prifysgol De Cymru. 

Cymrodoriaethau  Cyntaf i Ymchwil 2021/2022

Mae’r pedair Cymrodoriaeth Cyntaf i Ymchwil ar gael i ymgeiswyr sydd wedi eu cofrestru o fewn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu weithiwr proffesiynol ym maes iechyd (h.y. mae’n rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda’r NMC, HCPC neu GPhC adeg cychwyn yr astudiaeth). Gall gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi cofrestru gyda’r HCPC neu fod wedi cofrestru trwy drefniadau rheoleiddio gwirfoddol cydnabyddedig drwy’r Academi Gwyddor Gofal Iechyd. Noder nad oes gan RCBC Cymru gyllid digonol i allu ystyried gweithwyr proffesiynol o’r tu allan i’r grwpiau gofal iechyd proffesiynol hyn.

Mae Cymrodoriaethau Cyntaf i Ymchwil ar gyfer astudiaeth rhan amser am 12 mis, ar sail un diwrnod o bob wythnos. Bydd pob gwobr gyfwerth â £11,984 ac o’r swm hwn bydd £7,283 yn daladwy i’r sefydliad cyflogi fel cyfraniad am ryddhau’r cymrodyr,  £3,820 tuag at gostau arolygu a hyfforddi yn y Sefydliad Addysg Uwch perthnasol, hyd at £520 tuag at gostau ymchwil a hyd at £361 ar gyfer teithio i fynychu dyddiau astudio gyda’r Gymuned Ysgolorion.

Dyddiadau Cau ar gyfer y Broses Ymgeisio

Cam 1: Cysylltu gyda Gweithredwr Arweiniol yn eich dewis cyntaf o brifysgol i drafod eich cais afaethedig ac i benodi arolygwr cyn cyflwyno’r ffurflen gwirio cymhwyster.

Cam 2: Cwblhau a dychwelyd y ffurflenni gwirio cymhwyster i Marina McDonald erbyn 19eg Tachwedd 2021.

Cam 3: I’w helpu i fireinio’u syniadau, gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gymryd rhan mewn webinar gydag arbenigwyr mewn dylunio ymchwil, dulliau meintiol ac ansoddol, cynnwys cleifion, moeseg,  polisi iechyd a gwella gwasanaeth. Byddant hefyd yn trafod cynyddu effaith i’r eithaf a rheoli eu prosiect. Cynhelir y webinar ar 30ain Tachwedd 2021.

Cam 4: Yn dilyn y webinar, caiff ymgeiswyr eu gwahodd i gyflwyno ffurflen gais lawn erbyn 7fed Ionawr 2022.

Cam 5: Wedi llunio rhestr fer o’r ceisiadau llawn, cynhelir cyfweliadau er mwyn dewis yr ymgeiswyr llwyddiannus. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn 7fed Chwefor 2022.

Cam 6: Bydd y Cymrodoriaethau yn cychwyn ar 1af Ebrill 2022.

Cymrodoriaeth PhD 2021 / 2022

Bydd RCBC Cymru yn ariannu Cymrodoriaeth PhD llawn amser am dair blynedd. Caiff y PhD ei gwblhau ym Mhrifysgol De Cymru neu ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam.

Derbynnir ceisiadau oddi wrth rai sydd wedi eu cofrestru o fewn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol ym Maes Iechyd (h.y. mae’n rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda’r NMC, HCPC neu GPhC adeg cychwyn yr astudiaeth).

Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnwys cyllid (cyfanswm o £48,726 dros dair blynedd), cyfraniadau tuag at ffïoedd prifysgol (hyd at gyfanswm o £14,047 dros y tair blynedd), costau ymchwil (hyd at uchafswm o £2,500) a hyd at gyfanswm o £1062 ar gyfer mynychu dyddiau astudio gyda’r Gymuned Ysgolorion dros gyfnod tair blynedd y wobr.

Ni ellir ystyried ceisiadau am astudio rhan amser (dim llai na 3 diwrnod yr wythnos) onibai bod y brifysgol perthnasol yn cytuno i hynny.

Y Broses Ymgeisio

Cam 1: Cysylltu gyda’r Prif Swyddog Gweithredol yn eich dewis cyntaf o Brifysgol (Prifysgol De Cymru neu Brifysgol Glyndwr, Wrecsam) i drafod eich cais afaethedig ac i benodi arolygwr.

Cam 2: Cwblhau a dychwelyd y ffurflenni gwirio cymhwyster i Marina McDonald unrhyw adeg hyd at 19eg Tachwedd 2021. Caiff ymgeiswyr eu hysbysu o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y ffurflen wirio os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf cymhwyster ai peidio.

Cam 3: I’w helpu i fireinio’u syniadau, gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gymryd rhan mewn webinar gydag arbenigwyr mewn dylunio ymchwil, dulliau meintiol ac ansoddol, cynwys cleifion, moeseg, polisi iechyd a gwella gwasanaeth. Byddant hefyd yn trafod cynyddu effaith i’r eithaf a rheoli prosiect. Cynhelir y webinar ar 30ain Tachwedd 2021.

Cam 4: Caiff yr ymgeiswyr cymwys eu gwahodd i gyflwyno ffurflen gais lawn erbyn 7fed Ionawr 2022 i marina.mcdonald@ southwales.ac.uk. Caiff y ceisiadau llawn eu hadolygu yn annibynnol a threfnir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.

Cam 5: Rhagwelir y caiff y cyfweliadau eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn 7fed Chwefror 2022.  

Cam 6: Bydd y Gymrodoriaeth yn cychwyn ar 1af Ebrill 2022.