Yn fyw nawr: Galwad newydd ar gyfer ceisiadau i Ddyfarniad Amser Ymchwil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
23 Medi
*Mae'r alwad ariannu hon bellach ar gau i geisiadau*
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi bod rownd Dyfarniadau Amser Ymchwil y GIG bellach ar agor.
Mae’r cynllun ar agor i staff GIG Cymru, neu staff wedi’u contractio i GIG Cymru (fel meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gwyddonwyr clinigol) mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gofal yn y gymuned, neu iechyd cyhoeddus.
Ei nod yw adeiladu capasiti a gallu ymchwil yn y GIG drwy gynnig cyfle i staff wneud cais am amser wedi’i neilltuo i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil.
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg mewn datblygu eu sgiliau ymchwil a dylent anelu at fod yn brif ymchwilydd neu'n gyd-ymchwilydd arweiniol, gan ddatblygu ac arwain astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol.
Dyddiad cau: 16:00 ddydd Gwener 22 Hydref 2021
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwobr Amser Ymchwil y GIG.