Woman completing funding application on laptop

Yn fyw nawr: Tair galwad ariannu ymchwil newydd

1 Medi

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi tair galwad ariannu newydd sy’n agored ar gyfer ceisiadau. Mae’r cyllid ar gael o dan y cynlluniau canlynol:

Bydd gan alwadau RfPPB Cymru a Chynllun Ariannu Ymchwil: Grant Gofal Cymdeithasol broses ymgeisio dau gam unwaith eto. Bydd angen crynodeb o'r prosiect a'r achos dros flaenoriaethu ar geisiadau Cam 1, a byddant yn cael eu hasesu ar angen a phwysigrwydd ymchwil y cwestiwn ymchwil.

Ar gyfer y ddwy alwad hyn, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 1 yw 21 Hydref 2021. Yn dilyn asesiad, gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyflwyno cais llawn/Cam 2 a fydd yn cael ei asesu ar ansawdd ac effaith debygol y wyddoniaeth yn ogystal â'r gwerth am arian.

Bydd galwad y Gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd yn parhau i redeg fel proses ymgeisio un cam. Mae'r cynllun yn cynnig dyfarniadau cymrodoriaeth ôl-ddoethurol amser llawn (dros 3 blynedd) neu ran-amser (dros 4 neu 5 mlynedd) i ymchwilwyr talentog sydd â 60 mis neu lai o brofiad ymchwil ers cyflawni eu PhD. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Tachwedd 2021.

Cylch gwaith a meysydd blaenoriaeth

Mae pob cais sy'n dod o fewn cylch gwaith cyffredinol y galwadau yn gymwys, fodd bynnag, yn ôl yr arfer, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi nodi nifer o feysydd lle byddai croeso arbennig i geisiadau.

Ar gyfer RfPPB Cymru a'r Cymrodoriaethau Ymchwil Iechyd, byddem yn croesawu yn arbennig geisiadau sy'n:

  • cyd-fynd â'r amcanion llesiant gofal iechyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru; a/neu
  • mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn Cymru Iachach, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar gyfer y Cynllun Ariannu Ymchwil: Grantiau Gofal Cymdeithasol, byddem yn croesawu'n arbennig geisiadau sy'n ymdrin â'r meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Plant sy'n derbyn gofal / lleihau'r angen i blant fod mewn gofal
  • Pynciau ymchwil a nodwyd drwy ein prosiect blaenoriaethu diweddar: "Beth yw’r ffordd orau o ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy bodlon?"
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Bydd dogfennau i’ch helpu gyda cheisiadau, ynghyd â'r gofynion cymhwysedd a'r cylchoedd gwaith, ar gael o 1 Medi ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm grantiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cymorthfeydd i Ymgeiswyr

Os ydych yn ystyried gwneud cais i un o'r cynlluniau hyn, efallai yr hoffech drefnu sesiwn unigol cymorthfa rithwir 25 munud gyda chynghorydd.

Rhaid archebu slotiau ymlaen llaw drwy e-bost  a byddant yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin ar gyfer y dyddiadau a'r amseroedd canlynol:

  • 7 Medi 2021, 10.30 - 12.30
  • 10 Medi 2021, 13.00 - 16.00
  • 20 Medi 2021, 13.00 - 16.00
  • 29 Medi 2021, 11.00 - 13.00
  • 1 Hydref 2021, 13.00 - 16.00
  • 6 Hydref 2021, 10.00 - 13.00

Nodwch eich argaeledd, a brawddeg am eich ymholiad yn eich e-bost.