Nyrs sy'n gofalu am blentyn

Dull sy’n cael ei ddefnyddio i nodi plant sâl mewn ysbytai yn aneffeithiol mewn practisau cyffredinol

24 Mehefin

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi canfod nad yw dull clinigol pwysig a ddefnyddir mewn ysbytai yn addas ar gyfer practisau cyffredinol ar ei ffurf bresennol. 

Mae’r Sgoriau Rhybudd Cynnar Pediatrig Cenedlaethol (PEWS Cenedlaethol), a gyflwynwyd yn ddiweddar yn Lloegr, yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi plant sy’n ddifrifol wael mewn ysbytai. Aeth Canolfan PRIME Cymru ati, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr gofal sylfaenol o Brifysgolion Bryste, Rhydychen a Lerpwl, i brofi addasrwydd y dull ar gyfer practisau cyffredinol.

Dywedodd Dr Kathryn Hughes, Uwch-ddarlithydd Clinigol yng Nghanolfan PRIME Cymru:  “Ni chafodd y dull sgoriau PEWS Cenedlaethol ei gynllunio ar gyfer practisau cyffredinol.  Fel llawer o ddulliau a ddatblygwyd ar gyfer ysbytai, nid yw’n gweithio’n dda yn y lleoliad hwn. Efallai y byddai fersiwn wedi’i haddasu yn gweithio’n well, ond mae dull a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer practisau cyffredinol yn fwy tebygol o fod yn gywir ac o gael ei dderbyn.”

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys dadansoddi set ddata fawr o 6,703 o blant o dan bump oed â salwch acíwt a ymwelodd â meddygon teulu yng Nghymru a Lloegr. Aeth ymchwilwyr ati i brofi dwy system sgorio: PEWS Cenedlaethol ac Asesiad Cyflym o Fethiant Dilyniannol Organau Lerpwl. 

Mae’r ymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd dilysu dulliau o wneud penderfyniadau clinigol mewn practisau cyffredinol ac yn cynnig mewnwelediadau hanfodol i gywirdeb dull PEWS Cenedlaethol ar gyfer asesu plant yn y cyd-destun hwn. 

Mae dull PEWS Cenedlaethol yn cofnodi arsylwadau clinigol fel cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen i olrhain newidiadau a nodi plant sy’n ddifrifol wael, ond nid yw’n addas ar gyfer ei ddefnyddio mewn practisau cyffredinol ar ei ffurf bresennol.

Cofrestrwch ar gyfer eich cylchlythyr wythnosol i gael y newyddion diweddaraf am ymchwil, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.