a_man_in_a_suit_smiling

Arloesi o ran cysylltu data iechyd: Gyrfa effeithiol yr Athro Ronan Lyons

9 Ionawr

Ym maes gwyddor data iechyd sy'n esblygu'n gyflym, mae'r Athro Ronan Lyons yn arweinydd rhyngwladol.

Dyfarnwyd OBE iddo yn 2021 am wasanaethau i ymchwil, arloesi ac iechyd y cyhoedd, mae'n Gymrawd Academi Gwyddorau Meddygol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (sef y FLSW), Aelod o'r Academi Europaea, Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Iechyd y Cyhoedd gydag Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Monash, Awstralia.

Mae hefyd yn Uwch Arweinydd Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn Gyd-gyfarwyddwr Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL), gan arwain ar fentrau sydd wedi gwneud Cymru yn fodel ar gyfer cysylltu data iechyd yn fyd-eang.

O ran SAIL, dywedodd yr Athro Lyons: "Mae bellach yn cael ei gydnabod fel arweinydd byd yn y maes hwn, sy'n wych.  Mae unrhyw un sy'n ymwneud â chysylltu data yn rhyngwladol, yn gwybod am fanc data SAIL, a'r cyfraniad gwych y mae wedi'i wneud i ystod eang iawn o gwestiynau polisi, iechyd y cyhoedd ac ymchwil glinigol."

Gyrfa unigryw

Bellach yn Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, mae ei gefndir 40 mlynedd yn rhychwantu meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, epidemioleg a gwyddor data, gan roi persbectif amrywiol a manwl iddo ar agweddau ymarferol a damcaniaethol gwyddor data iechyd. 

Mae ei ymchwil ei hun wedi canolbwyntio ar ddefnyddio data cysylltiedig i ateb cwestiynau iechyd dybryd, llywio penderfyniadau polisi a gwella canlyniadau gofal iechyd.  Ers 2007 mae hyn wedi cynnwys defnyddio data o fanc data SAIL i lywio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llawer o benderfyniadau. 

Roedd yr Athro Lyons yn rhan o brosiect a wnaeth hyn yn ystod pandemig COVID-19, gyda chyllid gan UKRI MRC i gysylltu 47 set ddata gwahanol ar boblogaeth Cymru i ddeall lledaeniad y feirws, pa grwpiau a aeth yn sâl ac effeithiolrwydd y gwrth-fesurau. Hon oedd yr astudiaeth fwyaf manwl o gysylltiadau data a gynhaliwyd ledled y DU.

Cafodd hyn effaith eang, fel y dywedodd yr Athro Lyons:  "Roedd y dadansoddiadau hyn yn cael eu bwydo i benderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar adeg a helpodd i leihau effaith y pandemig ar y boblogaeth."

Mae Banc Data SAIL yn gweithredu fel 'model' ledled y byd

Wedi'i sefydlu yn 2007, mae SAIL yn galluogi ymchwilwyr o bob cwr o'r byd i gael mynediad at ddata iechyd dienw ar gyfer poblogaeth Cymru, gan gefnogi astudiaethau ar bopeth o iechyd meddwl i glefydau heintus. 

Gan ddechrau gyda chyllid oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae wedi symud o faes arbenigol pan oedd "dim ond llond llaw o bobl ynghlwm" i ymdrech wyddonol uchel ei pharch gyda channoedd o ymchwilwyr yn cymryd rhan.

Mae dyfnder y data sydd ar gael o fewn SAIL yn rhagori ar yr hyn a ddelir mewn mannau eraill, gan ganiatáu i ymchwilwyr ateb cwestiynau cymhleth yn gyflymach a mwy trylwyr nag mewn rhanbarthau mwy.

Mae effaith SAIL yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru, gan wasanaethu fel model i wledydd eraill sy'n datblygu posibiliadau cysylltu data.  Mae'r banc data wedi derbyn nifer o geisiadau gan sefydliadau ledled y byd sy'n awyddus i gydweithio ac ailadrodd ei lwyddiant, gan gynnwys Awstralia, Canada, yr Almaen, y Swistir a Singapore.  Mae gan SAIL hefyd swm cynyddol o ddata ledled y DU ac mae'r Llwyfan e-Ymchwil Diogel sylfaenol yn rheoli data ar draws 28 o lwyfannau ymchwil y DU a rhyngwladol.

Dywedodd yr Athro Lyons:  "Rwy'n credu bod gennym yr ehangder mwyaf o ddata ar gael o gymharu â bron unrhyw system yn y byd ac rydym yn ehangu'r mathau o ddata sydd ar gael yn barhaus i alluogi cynnal mwy a mwy o ymchwil mewn modd effeithlon iawn.

"Cawsom ein cydnabod gan lawer o wahanol gyrff, ac yn fwyaf diweddar cawsom ein cydnabod gyda gwobr Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, a oedd yn braf iawn."

Mae pobl ifanc sy'n dod i faes cysylltu data yn beth "hyfryd i'w weld"

Yn ei rôl fel Uwch Arweinydd Ymchwil gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae'r Athro Lyons yn darparu arweiniad strategol ar y defnydd o ddata i fynd i'r afael â materion iechyd cyhoeddus. 

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys meithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data iechyd. 

Dywedodd yr Athro Lyons:  "Mae'r bobl ifanc sydd wedi dod i mewn i hyn nawr, ac sy'n datblygu gyrfaoedd mewn ymchwil gan ddefnyddio'r data cyswllt ac yn ateb y cwestiynau cymdeithasol pwysig hynny - mae'n hyfryd gweld."

Mae hyn yn cynnwys rhaglen interniaeth SAIL, sydd wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd ac sy'n cynnig hyfforddiant ymarferol i fyfyrwyr mewn ymchwil data iechyd gyda ffocws Cymreig.

Mae'r Athro Lyons yn credu bod gan ranbarthau llai fel Cymru fanteision unigryw mewn ymchwil data iechyd, gan fod rhwydweithiau proffesiynol clos yn ei gwneud yn haws cydweithio ag adrannau llywodraeth ac iechyd. 

Mae hyn yn helpu i yrru'r maes yn ei flaen ac o fudd i ymchwilwyr a chleifion fel ei gilydd.

Ychwanegodd: "Ledled y byd, y gwledydd sydd wedi gwneud orau ar gysylltiadau data yw'r rhai llai."

Teimlir effaith yr Athro Lyons nid yn unig yn nyfnder y cysylltiad data yng Nghymru ond hefyd yn y gymuned gynyddol o ymchwilwyr y mae wedi'i ysbrydoli i gymryd y maes yn ei flaen.

Cofrestrwch i'r bwletin i fod y cyntaf i wybod am ein Huwch Arweinwyr Ymchwil newydd, pan gânt eu cyhoeddi ym mis Ebrill.