Yr Athro Ronan Lyons
Cyd-Gyfarwyddwr ac Uwch Arweinydd Ymchwil
Mae Ronan Lyons, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n Ymgynghorydd Anrhydeddus Iechyd y Cyhoedd gydag Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Monash, Awstralia. Mae’r Athro Lyons yn Gyfarwyddwr Ymchwil ac arweinydd Ymchwil Iechyd y Boblogaeth i Health Data Research UK ac mae’n Gyd-gyfarwyddwr y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o ddata arferol mewn cohortau, treialon ac wrth werthuso arbrofion naturiol ac ymyriadau cymhleth.
Mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu cohortau poblogaethau cyfan dienw yn y system SAIL fel llwyfan ar gyfer gwerthuso ymyriadau a pholisïau. Mae’n brif ymchwilydd ‘Rheoli COVID-19 drwy ddulliau gwell o gadw gwyliadwriaeth ac ymyrriadau poblogaeth (Con-COV): dull platfform’ a ‘Cymhwyso dysgu peirianneg i ddarganfod ffenoteipiau cydafiachedd newydd sy’n gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth’ sy’n cael eu hariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC). Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt Platfform Ymchwil Dementia yr MRC yn y DU ac yn brif ymchwilydd y Bartneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae gan yr Athro Lyons ddiddordeb penodol yn y maes atal a rheoli anafiadau, sydd wedi’i esgeuluso ac mae’n gysylltiedig â llawer o astudiaethau ymchwil anafiadau arsylwadol, ymyriadol a pholisi mwyaf y byd. Ers 2012, mae wedi cadeirio Ymdrech Gydweithredol Ryngwladol Canolfan Genedlaethol Ystadegau Iechyd yr UD ar Ystadegau a Dulliau’n ymwneud ag Anafiadau.
Yn y newyddion:
Effaith pandemig COVID-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru (Mawrth 2023)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Cydnabod Cyd-Gyfarwyddwr SAIL yng ngwobrau Diwydiant Dylanwad Data. (Chwefror 2021)
Sefydliad
Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
Cysylltwch â Ronan
Ffôn: 01792 513484