Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol

Neidio i: Cais am alwadau cyllid

Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol   

Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yn gytundeb rhwng pedair gwlad y DU a'r diwydiant fferyllol. 

Bydd yn darparu buddsoddiad sylweddol (£400 miliwn) i sector iechyd a gwyddorau bywyd y DU yn ystod 2024-2029, gan gynnwys £300 miliwn tuag at ehangu capasiti a gallu'r DU i gefnogi cyflawni treialon clinigol masnachol.   


Rhaglen Buddsoddi Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru

Bydd y buddsoddiad yn cryfhau gallu'r GIG i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol trwy:

  1. Ehangu a gwella’r seilwaith ymchwil glinigol fasnachol bwrpasol bresennol – gan sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol yn y DU, gan gynnwys Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru.
  2. Darparu cyllid hyblyg i ysgogi adnoddau treialon clinigol trwy gynyddu capasiti’r gweithlu a’r seilwaith sy'n berthnasol i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol

Bydd Cymru yn derbyn £22.1 miliwn rhwng 2024 a 2029. 

Ym mis Ebrill 2025, aethom ati i sefydlu Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru, gan gydnabod lle mae’r nifer mwyaf o dreialon masnachol wedi’u cyflawni i fod yn rhan o Rwydwaith y DU, a lle mae potensial i ehangu'r cynnig hwnnw'n gyflym trwy fwy o fuddsoddiad. Bydd ein cynnig yn ehangu wrth i dimau eraill ddatblygu'r arbenigedd hwnnw, ond i ddechrau bydd yn cynnwys: 

  • Cymru (wedi'i leoli yn Wrecsam)
  • Ymchwil Anadlol a Ffibrosis Systig (wedi'i lleoli yng Nghaerdydd)
  • Arenneg a Thrawsblaniadau (wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (wedi'i lleoli yng Nghaerdydd)
  • Canolfan Ganser Felindre (wedi'i lleoli yng Nghaerdydd)

Yn ogystal, rydym yn buddsoddi mewn timau/unedau eraill ledled Cymru lle mae llawer o botensial i ehangu eu capasiti a'u gallu:

  • Therapïau uwch (Gwasanaeth Cymru Gyfan wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Canolfan Cyflawni Ymchwil Gofal Sylfaenol a Chymunedol newydd (Cymru gyfan)
  • Niwroleg (Caerdydd)
  • Y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (Caerdydd)
  • Anadlol (Hywel Dda)
  • Gallu ychwanegol mewn canser (yn Abertawe)
  • Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Clefydau Prin (Caerdydd)
  • Fferylliaeth, delweddu, gwasanaethau patholeg

Trosolwg o raglen fuddsoddi Cymru

Gwnewch gais am gyllid fel rhan o'r rhaglen fuddsoddi: