alt

Datblygu gyrfa

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu gwaith ymchwil o ansawdd uchel er budd y GIG, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol, ac yn darparu dulliau dysgu a chymorth i alluogi ymchwilwyr fynd i’r afael â heriau iechyd a gofal cymhleth y dyfodol.

Drwy annog diwylliant ymchwil positif mewn sefydliadau iechyd a gofal rhoddir mwy o fynediad i gleifion a’r cyhoedd at astudiaethau ymchwil sy’n cynorthwyo i wella gofal a dewisiadau o ran triniaeth. Mae sefydliadau ymchwil gweithredol hefyd yn fwy tebygol o ddenu a chadw’r staff gorau a rhoi cyfleoedd i ddatblygu mwy o’r gweithlu, gan eu bod yn galluogi’r staff i weithio ar y rheng flaen ym maes gwybodaeth ac ymarfer presennol. 

Os ydych yn ystyried camu ymlaen yn eich gyrfa ymchwil ac yn awyddus i gael gwybod mwy am y cyfleoedd a gynigir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae nifer o gynlluniau ar gael i ymchwilwyr iechyd mewn gwahanol broffesiynau a chanddynt wahanol gefndiroedd a diddordebau ymchwil. Ymysg y rhain mae:

Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (NHS RTA) – Amser wedi’i ddiogelu i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil y GIG

Statws: Ar gau

Mae Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG ar agor i staff GIG Cymru, neu staff ar gontract GIG Cymru (megis meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr clinigol) ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol neu iechyd cyhoeddus.  Ei nod yw meithrin gallu a chapasiti ymchwil yn y GIG drwy roi’r cyfle i staff wneud cais am amser wedi’i ddiogelu i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil.

Fis Mawrth 2020, bu Llywodraeth Cymru’n gwerthuso’r cynllun i asesu effaith a gwerth y dyfarniad, yn ogystal ag adborth ynglŷn â sut y mae’r cynllun wedi cefnogi datblygu gyrfaoedd ymchwil yn y GIG.

Dyfarniad Cymorth Dysgu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Statws: Ar agor

Galwad Newydd ar Agor: Cynllun Dysgu a Datblygu Cymorth a Chyflenwi WEDI'I DARGEDU 2025

Mae'n bleser gennym ryddhau galwad ar y Cynllun Dysgu a Datblygu, sydd wedi'i anelu at gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau Arweinyddiaeth Dosturiol ar gyfer staff Cymorth a Chyflenwi.  Eleni, mae cymorth ariannol ar gael i staff Cymorth a Chyflenwi i ddatblygu eu sgiliau Hyfforddi a Mentora neu Arweinyddiaeth trwy gyflawni cymhwyster achrededig. 

Cyfeiriwch at yr arweiniad, sy'n cynnwys y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cynllun Dysgu a Datblygu Cymorth a Chyflenwi 2025.

Y dyddiad cau yw 17:00 Dydd Gwener 15 Awst 2025. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon y ffurflen gais wedi'i chwblhau, ynghyd â'ch CV ac e-bost cadarnhau gan eich rheolwr llinell i: Research-training@wales.nhs.uk cyn y dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Research-training@wales.nhs.uk

Dogfennau:

Canllawiau'r Cynllun Dysgu a Datblygu wedi'i Dargedu

Ffurflen gais am y Cynllun Dysgu a Datblygu wedi'i Dargedu

Templed CV a chanllawiau Cynllun Dysgu a Datblygu wedi'i Dargedu

 

Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil

Ariennir Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBCCymru) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’i nod yw cynyddu gallu a chapasiti ymchwil ym maes nyrsio, bydwreigiaeth, gwyddorau clinigol fferyllol, a phroffesiynau perthynol i iechyd, a chyfrannu at y broses o ddatblygu rolau academaidd clinigol.

Partneriaeth ydyw rhwng chwe phrifysgol yng Nghymru (prifysgolion De Cymru, Abertawe, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr a Bangor) sy’n rhoi cyfle i ymchwilwyr newydd a phrofiadol yn y proffesiynau uchod ddilyn cymrodoriaeth ymchwil. Bydd RCBCCymru yn ymgysylltu â’r GIG, diwydiannau, elusennau a’r rhai sy’n llunio polisïau i gynnig ystod o ddyfarniadau, sy’n amrywio o gymrodoriaethau y Cyntaf i mewn i Ymchwil, Doethuriaeth, a chymorth i'r rhai sy’n awyddus i ddilyn astudiaethau ôl-ddoethurol.

Ymarferwyr Ymchwil Clinigol

Mae’r cydweithrediad yn gweithio i ddatblygu’r rhai sy’n gwneud gwaith ymchwil am y tro cyntaf, gan gynorthwyo i sicrhau bod y llwybr i fod yn ymchwilydd annibynnol yn un mwy deniadol a hygyrch.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi croesawu lansio cynllun achredu proffesiynol newydd ar gyfer Ymarferwyr Ymchwil Clinigol ledled y DU.

Mae'r gofrestr achrededig, a lansiwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar Ymchwil Iechyd (NIHR),yn rhan o gynllun yn y DU i ddyblu nifer yr Ymarferwyr Ymchwil Clinigol i 2,000 dros y blynyddoedd nesaf.

Mae YYC (CRP) yn deitl ymbarél a ddefnyddir ar gyfer teulu o rolau wrth ddarparu ymchwil sydd ag elfen sy'n wynebu cleifion a lle nad yw deiliad y swydd wedi'i gofrestru i broffesiwn gofal iechyd ar hyn o bryd.

Bydd cyflwyno'r gofrestr yn gwella hunaniaeth broffesiynol, yn cydnabod y rôl hanfodol y mae YYC yn ei chwarae wrth ddarparu ymchwil, ac yn darparu llwybr clir ar gyfer datblygu gyrfa YYC.

Mae'r sesiynau gwybodaeth ar-lein isod yn rhoi rhagor o wybodaeth ac arweiniad:

Ymarferydd Ymchwil Clinigol Llwybr i Gymru

Mentoriaeth Ymarferydd Ymchwil Glinigol

Hyfforddiant

Mae hyfforddiant i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa i'w weld ar ein hadran hyfforddi