Diweddariadau hyfforddiant

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel, seiliedig ar angen ledled Cymru i’r gymuned ymchwil. Mae ein hyfforddiant yn galluogi’r unigolyn i gael dewis o naill ai hyfforddiant wyneb yn wyneb neu e-ddysgu, gydag adnoddau ar gael i wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.

Mae cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ac aelodau eraill o dimau ymchwil y mae’r GIG neu brifysgol yn eu cyflogi, neu’r rheini sy’n ymwneud â datblygu a chyflenwi astudiaethau ymchwil. Mae ein cyrsiau hyfforddi hefyd ar gael i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i gael eu cynnwys mewn ymchwil.

Mae pob un o’r cyrsiau ar y rhaglen hyfforddi genedlaethol wedi cyflawni’r marc ansawdd am safonau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) achrededig, heblaw am rai cyrsiau y mae hyfforddwyr allanol yn eu darparu.


Ar gyfer cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd ewch i'r dudalen cyrsiau hyfforddi.

I gael gwybodaeth am hyfforddiant arall a ddarperir yn allanol, ewch i'r dudalen adnoddau hyfforddi.

I gael gwybodaeth am hyfforddiant Arfer Clinigol Da (GCP), ewch i'r dudalen GCP.

I weld gwybodaeth am hyfforddiant Platfform Data Agored (ODP), ewch i dudalen ODP.

Am ddiweddariadau COVID-19 ewch i'r dudalen diweddariadau hyfforddiant.