Professor Graham Moore

Yr Athro Graham Moore

Uwch Arweinwyr Ymchwil

Mae’r Athro Graham Moore yn Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, gyda rolau ar draws amrywiaeth o fuddsoddiadau a seilweithiau ymchwil, gan gynnwys y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu, Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a chonsortiwm y mae’r UKPRP yn ei ariannu â ffocws ar benderfynyddion masnachol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd (Siapio polisïau iechyd cyhoeddus i leihau anghydraddoldebau a niwed; SPECTRUM)

Mae diddordebau ymchwil sylweddol Graham ym maes anghydraddoldebau iechyd, yn canolbwyntio’n bennaf ar blant a’r glasoed. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar effeithiau ymyriadau cyffredinol ar degwch, ac ar ymyriadau â’r nod o leihau anghydraddoldeb trwy dargedu is-grwpiau yn y boblogaeth (e.e. plant o gefndiroedd tlotach, plant sy’n dod i gysylltiad â thrais domestig, plant sydd yng ngofal awdurdodau lleol, neu blant a phobl ifanc niwroamrywiol). Ochr yn ochr â gwaith amrywiol sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a’r glasoed, fel cyfrannwr mawr o ran ailgynhyrchu anghydraddoldeb o’r naill genhedlaeth i’r nesaf, mae ganddo hanes cryf hefyd mewn ymchwil i ddefnydd pobl ifanc o dybaco a’r polisi tybaco.

Yn fethodolegol, mae gan Graham enw da yn rhyngwladol am arloesi wrth werthuso ymyriadau cymdeithasol. Bu’n arwain gwaith datblygu ac ysgrifennu canllawiau’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar werthuso prosesau, y mae llawer o bobl yn eu dyfynnu, ac roedd yn gyd-ben ymchwilydd ac yn awdur arweiniol ar gyfer canllawiau wedi’u hariannu gan MRC-NIHR ar addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd. Mae’r ddau wedi’u cyhoeddi fel Dulliau Ymchwil ac Erthyglau Adrodd yn y BMJ. Mae yna gysylltiad rhwng y gwaith hwn a’i ddiddordebau sylweddol mewn anghydraddoldebau iechyd trwy ei bwyslais ar symud y tu hwnt i ddarganfod a yw ymyriadau’n ‘gweithio’ tuag at ddeall natur gyd-destunol effeithiau ymyriadau, a chanlyniadau rhyngweithio yng nghyd-destun ymyriadau ar gyfer ehangu neu gulhau anghydraddoldeb trwy ymyrryd cymdeithasol. Fel arweinydd rhaglen ar gyfer rhaglen dulliau DECIPHer rhwng 2012 a 2019, bu Graham yn arwain cyfres o gyrsiau byr methodolegau sefydledig, wedi’u traddodi ar 5 cyfandir hyd yma.

Mae Graham yn aelod ac yn Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Ariannu Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR ac yn aelod o Bwyllgor Ymchwil Atal a’r Boblogaeth, Ymchwil Canser y DU, ac yntau wedi cadeirio Panel Adolygu Arbenigwyr Atal, Ymchwil Canser y DU rhwng 2018 a 2020. Mae hefyd yn Gymrawd o’r Academi Addysgu Uwch.


Yn y newyddion:

Trosolwg o ganllawiau MRC ar gyfer ymyriadau cymhleth a gwerthusiadau prosesau, Yr Athro Graham Moore - Gweminar (Mai 2023)

Faculty Learning and Development Day (Ebrill 2023)

Uwch ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at fenter o bwys (Ebrill 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Sefydliad

Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â Graham

E-bost

Ffôn: 02920 875387