Yr Athro Kerry Hood yn siarad mewn cynhadledd

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol

1 Ebrill

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei garfan  nesaf o Uwch Arweinwyr Ymchwil ac Arweinwyr Arbenigol o bob rhan o'r byd academaidd a'r GIG yng Nghymru, i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer ymchwil i glefydau, triniaethau a gwasanaethau a  all newid bywydau pobl a sbarduno gwelliannau mewn gofal cleifion.

Bydd 14 o Uwch Arweinwyr Ymchwil, a fydd yn ymgymryd â'r rôl am y tair blynedd nesaf, yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, mentora ymchwilwyr gyrfa gynnar  a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil

Penodwyd  31 o Arweinwyr Arbenigol hefyd am y tair blynedd nesaf, a fydd yn darparu cymorth strategol o fewn arbenigeddau megis clefyd cardiofasgwlaidd, gofal critigol, strôc, diabetes, canser ac iechyd meddwl ac i gynrychioli Cymru ar lefel y DU.

Bydd yr Arweinwyr Arbenigol yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil drwy adeiladu rhwydweithiau o brif ymchwilwyr yn eu harbenigedd a chefnogi'r defnydd o astudiaethau ledled Cymru, fel rhan o Wasanaeth Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyma eiriau’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae ein Uwch Arweinwyr Ymchwil ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a phwysig yn y wlad. Atynt hwy yr ydym yn troi am arweiniad a hwy sydd yn gweithredu fel hyrwyddwyr ac eiriolwyr ymchwil iechyd a gofal.

“Rydym yn awr yn sefydlu cyfadran newydd, sef Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn arbennig ar gyfer creu cyfleoedd ehangach a mwy integredig ar gyfer datblygu gyrfaoedd mewn ymchwil. Bydd ein Uwch Arweinwyr Ymchwil yn chwarae rhan allweddol yn yr Gyfadran newydd hon.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig fu ymchwil ac wrth i ni symud ymlaen, mae'n bwysig bod Cymru'n chwarae rhan yn y broses o adfer portffolio ymchwil clinigol y DU, gan helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau newydd sy'n wynebu'r GIG a gofal cymdeithasol.

"Mae ein Harweinwyr Arbenigol yn arweinwyr clinigol profiadol o safon uchel sy'n gallu ennyn parch cydweithwyr ledled y DU ac sydd hefyd yn hyrwyddo ymchwil yn eu maes arbenigedd yng Nghymru.

"Mae sicrhau llais Cymreig yn nhrafodaethau arbenigol y DU yn hanfodol wrth i ni edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Uwch Arweinwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022-2025:

  • Yr Athro Sinead Brophy, Athro Gwyddor Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwraig Treialon Niwrowyddoniaeth Meddwl ac Ymennydd, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Colin Dayan, Athro Diabetes a Metabolaeth Clinigol, Cyd Gyfarwyddwr Swyddfa Ymchwil, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Yr Athro Adrian Edwards, Athro Ymarfer Cyffredinol, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Deb Fitzsimmons, Athro Ymchwil Economeg a Deilliannau Iechyd, Cyfarwyddwraig Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE), Cyd-Gyfarwyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC), Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Donald Forrester, Athro Gwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Liam Gray, Athro Niwrolawdriniaeth, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Dyfrig Hughes, Athro Pharmacoeconomeg a Chyfarwyddwr Ymchwil, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl, Athro Seiciatreg, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Ronan Lyons, Athro Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Graham Moore, Athro Gwyddorau Cymdeithasol a Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Jane Noyes, Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, (CASCADE), Prifysgol Caerdydd

Fel cydnabyddiaeth o’u gwaith hanfodol bwysig a’r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at adeiladu a chefnogi’r gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, bydd Uwch Arweinwyr Ymchwil yn derbyn gwobr flynyddol yn ôl disgresiwn o hyd at £20,000 i’w fuddsoddi yn eu gwaith ymchwil.

Arweinwyr Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022-2025

Mae pob un o'r arbenigeddau yn cyd-fynd â'r 31 o feysydd therapiwtig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR):