Malisa Pierri

Nyrs ymchwil ymroddedig Malisa yn arwain y ffordd mewn ymchwil epilepsi

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys eleni (12 Mai 2024), rydym yn dathlu cyfraniadau ac ymrwymiad rhyfeddol nyrsys ymchwil sy'n cael effaith enfawr ar gleifion.

Ymhlith y gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn yw Malisa Pierri, aelod o'r Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Arbenigwraig Nyrsio Clinigol Arweiniol yng Nghanolfan Epilepsi Cymru, sydd wedi esbonio'r effaith ddwys y gall nyrsys ymchwil ei chael ar ofal cleifion trwy ymchwil ac arloesi.

Dechreuodd gyrfa nyrsio Malisa ym 1998 ac mae hi wedi ymroi i niwrowyddorau ers ei hyfforddiant. Dros y blynyddoedd, mae Malisa wedi ymrwymo ei hun i hyrwyddo gofal cleifion trwy ymchwil trwy dreialon clinigol.

Dywedodd Malisa: "Rwyf bob amser wedi bod yn ffodus i fod yn rhan o astudiaethau a oedd yn ennyn fy niddordeb."

"Canolfan Epilepsi Cymru oedd y recriwtiwr uchaf ar gyfer y treial SANAD II, a oedd yn astudiaeth genedlaethol i archwilio effeithiolrwydd meddyginiaethau gwrth-epilepsi. Roedden ni'n gallu adnabod, recriwtio a monitro cleifion yr holl ffordd drwodd."

Manteisiodd Malisa ar gyfleoedd fel Ysgoloriaeth Betsi Cadwaladr ac Ysgoloriaeth Teithio Florence Nightingale, a oedd yn ehangu ei dealltwriaeth o ofal epilepsi ar draws gwahanol leoliadau gofal iechyd. 

Dyfarnwyd cymrodoriaeth Cydweithrediad Meithrin Gallu Ymchwil Cymru iddi yn 2020 a ganiataodd iddi ddechrau astudiaeth gynhwysfawr ar apwyntiadau rhithwir ym maes rheoli epilepsi.

Trwy gyfweliadau a dadansoddiad manwl, mae Malisa wedi datgelu mewnwelediadau gwerthfawr sydd wedi helpu i ail-lunio ymarfer clinigol.

"Fel clinigwr, rwy'n gwybod beth sy'n digwydd ar yr ochr glinigol.  Rwyf hefyd yn gwneud ymchwil, rwy'n gallu dylanwadu ar ymarfer clinigol ynghyd ag ymchwil.

"Gallaf weld effaith fy ymchwil yn fy ngwaith o ddydd i ddydd a'r effaith ar ofal cleifion.

"Dyna pam rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan mewn ymchwil."

Mae Malisa yn eiriol am rôl academaidd glinigol a fydd yn caniatáu iddi barhau i wneud cyfraniadau ystyrlon i ymarfer clinigol ac ymchwil.

Dywedodd: 

Mae ymchwil yn ymwneud â newid pethau er gwell a symud ymlaen.  Mae gallu newid a dylanwadu yn glinigol yn rhoi boddhad mawr i mi."

Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a’r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.