11 Awgrym Gorau ar sut i gyflwyno trafodaeth dull TED
Gall cyflwyno trafodaeth dull TED fod yn ffordd bwerus o rannu eich ymchwil ac ysbrydoli'ch cynulleidfa. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn galw am gyflwyno crynodebau i chi gael cyfle i fod yn rhan o raglen gynadledda 2024 gyda'ch trafodaeth dull TED. Dyma ein 11 awgrym gorau i'ch helpu i greu trafodaeth ddifyr a chofiadwy:
-
Byddwch â neges glir
Eglurwch brif syniad neu neges eich sgwrs. Gwnewch yn siŵr ei fod yn glir ac yn gryno fel y gall y gynulleidfa ddeall eich pwynt yn hawdd.
-
Dwedwch stori
Strwythurwch eich sgwrs fel stori gyda dechrau, canol a diwedd. Gall hanesion personol ac enghreifftiau o fywyd go iawn wneud eich sgwrs yn fwy trosglwyddadwy ac effeithiol.
-
Cadwch hi'n syml
Osgowch jargon, iaith gymhleth ac acronymau. Defnyddiwch dermau bob dydd i wneud eich neges yn hygyrch i gynulleidfa eang. Gall y canllaw hwn eich helpu i gadw'ch iaith yn glir ac yn syml.
-
Ymgysylltwch â'r gynulleidfa
Beth am ddechrau gyda ffeithiau am eich ymchwil? Neu ystadegau sy'n synnu? Gall cwestiwn neu stori gymhellol ar y dechrau weithredu fel bachyn a all dynnu sylw'r gynulleidfa o'r cychwyn cyntaf.
-
Defnyddiwch ddelweddau’n ddoeth
Os ydych chi'n defnyddio sleidiau, cadwch nhw'n syml, yn hygyrch ac yn ddeniadol. Delweddau o ansawdd uchel ac ychydig iawn o destun yw’r gorau.
Caniateir uchafswm o dair sleid i chi ar gyfer eich sgwrs TED. Gall sleidiau fod yn ddefnyddiol ond nid ydynt o reidrwydd yn addas ar gyfer rhai trafodaethau penodol. Mewn gwirionedd, nid oes sleidiau gan lawer o'r trafodaethau dull TED gorau. Felly, os nad ydych yn meddwl bod angen sleidiau arnoch chi, peidiwch â'u defnyddio.
-
Dangoswch emosiwn
Byddwch yn angerddol am eich pwnc. Dangoswch eich cyffro a'ch brwdfrydedd.
-
Ymarferwch
Ymarferwch, ymarferwch, ymarferwch! Ymarferwch eich sgwrs sawl gwaith nes y gallwch ei gyflwyno'n esmwyth. Ymarferwch o flaen eich ffrindiau neu recordiwch eich hun i nodi meysydd i'w gwella.
-
Canolbwyntiwch ar iaith y corff
Defnyddiwch iaith y corff agored, croesawgar a hyderus. Dylai ystumiau fod yn naturiol a helpu i bwysleisio'ch pwyntiau.
-
Amrywiwch eich dull cyflwyno
Newidiwch lefel a chyflymder eich tôn i gadw'ch sgwrs yn ddeinamig. Mae hyn yn helpu i gynnal diddordeb eich cynulleidfa ac yn amlygu pwyntiau allweddol.
-
Cadwch eich trafodaeth i’r a roddwyd
Mae gennych uchafswm o 10 munud ar gyfer eich trafodaeth dull TED. Cadwch at eich neges glir ac osgowch grwydro oddi ar y testun. Mae pob gair yn cyfrif!
-
Gorffennwch gyda rhywbeth dylanwadol
Gorffennwch eich sgwrs gyda chasgliad cadarn. Crynhowch bwyntiau allweddol a gadewch y gynulleidfa gyda rhywbeth i feddwl amdano neu â cham gweithredu.
Dyna yw ein hawgrymiadau, gallwch ddod o hyd i fwy o awgrymiadau yn y canllaw siaradwr TEDX swyddogol.
Cynhelir cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd a'r thema eleni yw 'Mae Ymchwil yn Bwysig', cofrestrwch yma i neu drwy'r ffrwd fyw. Peidiwch ag anghofio cyflwyno eich crynodebau ar gyfer trafodaeth dull TED ac ymgeisio am wobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.