Dyn yn cyflwyno sgwrs o flaen cynulleidfa eang.

Cyflwynwch eich crynodeb ar gyfer trafodaeth dull TED - Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024

25 Ebrill

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gwahodd cyflwyniadau ar gyfer trafodaethau dull TED ar gyfer cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024. Thema'r gynhadledd eleni yw 'Mae Ymchwil yn Bwysig' a bydd yn cael ei chynnal ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Cofrestrwch nawr i fynychu'r gynhadledd.

Rydym yn edrych i archwilio pam fod ymchwil yn bwysig i chi, fel y rhai sy'n gyrru'r newid ac yn llunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. P'un a ydych yn ymchwilydd profiadol neu'n newydd-ddyfodiad i'r maes, gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant neu'n rhywun sy'n ymwneud ag ymchwil, rydym am glywed eich syniadau, eich profiadau a'ch gweledigaethau ar gyfer y dyfodol.

Eleni, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn crynodebau sy'n ymchwilio i'r canlynol:

Prosiectau a mentrau ymchwil gofal cymdeithasol

Rydym yn annog ymchwilwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol i gyflwyno crynodebau sy'n tynnu sylw at eu prosiectau sydd â'r nod o ehangu ymchwil gofal cymdeithasol neu wella ymarfer.  Dylai crynodebau yn y categori hwn bwysleisio arwyddocâd ac effaith prosiectau sy'n gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ymchwil sy'n canolbwyntio ar iechyd menywod

Yn dilyn Diweddariad Llywodraeth Cymru ar Iechyd Menywod, rydym yn gwahodd unigolion i rannu crynodebau yn amlygu eu canfyddiadau, eu methodolegau a’u canlyniadau sy’n ymwneud â materion iechyd menywod. Y nod yw ysbrydoli a hysbysu eraill am bwysigrwydd ymchwil iechyd menywod yn y byd sydd ohoni heddiw, gan gynnig arweiniad ar sut i bennu pwnc ymchwil a pha feysydd o ymchwil iechyd menywod sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru.

Cynaliadwyedd mewn ymchwil

O fewn y thema hon, rydym yn chwilio am arddangosiadau o gamau gweithredu pendant a gymerwyd i gynyddu cynaliadwyedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  Gall siaradwyr rannu mentrau a weithredir yn eu sefydliadau i'w gwneud yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, sut i weithredu'r newidiadau hynny a sut mae'r camau gweithredu wedi datblygu i fod yn welliannau mesuradwy.

Cyflwynwch eich crynodeb heddiw.

Dyddiad cau: 5:00pm ar 26ain Gorffennaf 2024

Am fwy o fanylion ar sut i gyflwyno eich crynodeb ynghylch pam mae ymchwil yn bwysig i chi a’r dyddiadau allweddol, darllenwch ganllaw crynodebau cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.

Mae'r gynhadledd hon yn sicr o fod yn llawn dysgu, rhwydweithio a rhannu barn am bwysigrwydd ymchwil. Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad arbennig hwn felly cofrestrwch nawr Rhaid i bob unigolyn sy'n cyflwyno crynodeb gofrestru i fynychu'r gynhadledd. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen digwyddiadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu e-bostiwch ni.