Adolygiad cyflym o strategaethau i gefnogi dysgu a llesiant ymhlith dysgwyr 16-19 oed sydd wedi cael amhariad sylweddol ar eu haddysg o ganlyniad i’r pandemig COVID-19

Mae ein hadolygiadau cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth er mwyn hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon ond eto bob amser rhoi sylw i duedd. Maent yn dilyn yr argymhellion methodolegol a’r safonau gofynnol ar gyfer cynnal adolygiadau cyflym ac adrodd arnynt, gan gynnwys protocol strwythuredig, chwilio systematig, sgrinio, tynnu data, arfarnu beirniadol a chyfuno tystiolaeth i ateb cwestiwn penodol a nodi bylchau allweddol mewn ymchwil. Diweddariad yw’r adolygiad hwn o adolygiad blaenorol a gynhaliwyd ym mis Awst 2021. Chwiliwyd llenyddiaeth ar 15/08/21, 26/09/21 a 22/06/22. Defnyddiwyd offeryn AMSTAR-2 i asesu ansawdd yr adolygiadau systematig a gynhwyswyd a defnyddiwyd offeryn RaPeer i asesu adolygiadau cyflym a gynhwyswyd.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00044