Pedair astudiaeth ymchwil COVID-19 sy’n helpu i wella bywydau yng Nghymru
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi ariannu pedair astudiaeth ymchwil COVID-19 â’r nod o wella gwaith rheoli’r pandemig a chefnogi Cymru yn ystod y cyfnod pontio allan o’r pandemig.
Ers mis Mawrth 2021, mae’r Ganolfan wedi bod yn adolygu tystiolaeth ymchwil i wneud yn siŵr bod y wybodaeth ddiweddaraf a pherthnasol ar gael i Lywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol, er mwyn penderfynu ar y ffyrdd gorau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Er bod hyn wedi darparu atebion i lawer o gwestiynau, mae hefyd wedi dwyn sylw at fylchau mewn tystiolaeth allweddol y gallai ymchwilio pellach fod o fudd iddo. I helpu i fynd i’r afael â hyn, mae’r Ganolfan wedi ariannu’r pedwar prosiect ymchwil a ganlyn:
PVCOVID – Adolygiadau Cyhoeddus yn Ystod y Pandemig Coronafeirws
Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r newidiadau mewn ymddygiadau iechyd COVID-19 dros amser. Mae hyn yn cynnwys gwneud profion, hunanynysu, gwisgo masgiau wyneb a chymysgu’n gymdeithasol. Mae hefyd yn edrych ar sut y mae’r cyhoedd yn ystyried symptomau fel annwyd, dolur gwddf a thwymyn, a allai fod yn gysylltiedig â COVID-19, a’r hyn y maen nhw’n ei wneud mewn ymateb i’r symptomau
Â’r nod o archwilio p’un a yw’r profiad o’r cyfnod pontio allan o’r pandemig yn wahanol i bobl mewn grwpiau poblogaethau penodol a sut y mae’n wahanol, mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio’n benodol ar y rheini mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, y rheini yn y cymunedau mwyaf amddifad a’r henoed neu’r rheini sy’n glinigol agored i niwed.
Mae hyn yn barhad o brosiect PVCOVID sydd wedi bod yn cynnal grwpiau ffocws ac arolygon ers mis Mawrth 2020.
Pen Ymchwilwyr: Dr Kim Dienes a Dr Simon Williams
Sefydliad sy’n lletya: Prifysgol Abertawe
Dyddiad cychwyn: Mehefin 2022
Dyddiad y daw i ben: Mawrth 2023
Swm y cyllid: £54,125
CARI-Cymru – Ymddygiadau iechyd cysylltiedig â COVID-19 a haint y system anadlu cyffredin: Datblygu dulliau gweithredu yn y gymuned i leihau baich heintiau’r system anadlu yng Nghymru
Mae’r astudiaeth hon yn dilyn ymlaen o PVCOVID a’i nod yw deall sut y mae pobl yn ymgysylltu ag ymddygiad sy’n gallu atal lledaenu haint yn ystod tymor ffliw y gaeaf.
Mae’r prosiect yn cymharu sut y mae’r cyhoedd yn ymddwyn pan y maen nhw’n heintiedig gyda symptomau â phan y maen nhw’n heintiedig a heb symptomau. Mae yna’n defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu strategaethau yn y gymuned i leihau effaith heintiau’r system anadlu i bobl Cymru.
Pen Ymchwilwyr: Dr Kim Dienes a Dr Simon Williams
Sefydliad sy’n lletya: Swansea University
Dyddiad cychwyn: Medi 2022
Dyddiad y daw i ben: Mawrth 2023
Swm y cyllid: £78,986
BBB-COV – Seiliau COVID Hir o ran yr Ymennydd a Choesyn yr Ymennydd
Mae COVID-19 yn gallu effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau, yn enwedig y rheini sy’n rheoli’r galon a’r anadlu. Mae coesyn yr ymennydd yn ardal allweddol sy’n dylanwadu ar yr hwyliau a’r meddwl – gallai difrod i’r ardal hon esbonio’r amrywiaeth eang o symptomau a welir mewn COVID ac mae’n bosibl bod hyn yn cyfrannu at deimlo’n fyr o wynt, sy’n rhywbeth y mae llawer o bobl â COVID hir yn ei deimlo.
Yn anffodus, nid yw sganiau a ddefnyddir yn nodweddiadol mewn ysbytai, fel sganiau CT neu sganiau MRI safonol, yn dangos neu’n nodweddu coesyn yr ymennydd yn dda. Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar ddefnyddio sgan MRI mwy pwerus, arbenigol i archwilio’r ardal hon yn fanylach.
Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i nodi ardaloedd o’r ymennydd sy’n cyfrannu at symptomau mewn COVID hir. Fe allai’r astudiaeth hon hefyd ddarparu gwybodaeth i lywio gwaith gwneud diagnosis a datblygu triniaethau i leihau rai o’r symptomau i bobl â COVID hir.
Pen Ymchwilydd: Dr Helen E Davies
Sefydliadau sy’n lletya: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd
Dyddiad cychwyn: Chwefror 2022
Dyddiad y daw i ben: Awst 2022
Swm y cyllid: £21,047
Profiadau dysgwyr a’u teuluoedd sy’n dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn ystod y pandemig COVID-19
Mae’r prosiect hwn yn archwilio profiadau dysgwyr sy’n dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad, sydd wedi derbyn addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n parhau â’u haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ystod y pandemig COVID-19.
Bydd y prosiect yn edrych ar bobl ifanc sydd naill ai mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu sy'n dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgol ddwyieithog, gan edrych ar eu profiadau nhw a'u teuluoedd.
Pen Ymchwilydd: Sian Lloyd (Aberystwyth) ac Enlli Thomas (Bangor)
Sefydliad sy’n lletya: Prifysgolion Aberystwyth a Bangor
Dyddiad cychwyn: Hydref 2022
Dyddiad y daw i ben: Mawrth 2023
Swm y cyllid: £65,891.50
Gwelwch y wybodaeth ddiweddaraf o Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a phrosiectau ymchwil eraill ledled Cymru trwy gofrestru i dderbyn bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.