Two research nurses wearing masks looking at each other. Their image is encased in a bauble.

Yr Athro Kieran Walshe yn diolch i staff ymchwil am "waith caled a chyfraniadau gwerthfawr" yn 2022

Neges diwedd blwyddyn gan yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  

Mae diwedd pob blwyddyn yn amser da i fyfyrio ar lwyddiannau’r 12 mis diwethaf, yn ogystal â’r heriau. 

Gall pob un ohonom ymfalchïo yn y ffordd y chwaraeodd ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru eu rhan lawn mewn ymchwil a newidiodd gwrs y pandemig COVID-19, ac sydd wedi parhau i weithio ar feysydd fel COVID-19 hir a chanlyniadau’r pandemig i wasanaethau iechyd a gofal, ac yn arbennig i grwpiau poblogaeth agored i niwed. 

Mae ein Canolfan Dystiolaeth COVID-19 wedi newid ei sgiliau o ran dod o hyd i dystiolaeth a syntheseiddio tuag at broblemau newydd fel diagnosteg gyflym, adferiad ôl-groniad llawfeddygol a'r argyfwng costau byw. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ailddechrau ac adfer llawer o astudiaethau ymchwil a gafodd eu gohirio yn ystod y pandemig, gyda chydweithrediad gwych ar draws pedair gwlad y DU. 

Lansiwyd ein Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, gyda’r nod o greu mwy o gyfleoedd i bobl ddilyn gyrfaoedd ymchwil cynaliadwy a ffrwythlon yng Nghymru, tra’n meithrin ein capasiti a’n gallu. 

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein cynllun drafft Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer 2022-25, gan nodi ein huchelgeisiau o dan bedwar nod allweddol a mynegi ffordd gynhwysfawr ymlaen. Ar ôl cael llawer o sylwadau adeiladol gan randdeiliaid, byddwn yn cwblhau’r cynllun yn fuan, ond rydym eisoes yn gweithio ar ei weithredu mewn sawl ardal.  

Felly beth nesaf? Yn 2023, rydym yn edrych ymlaen at sefydlu ystod newydd o wobrau a chymrodoriaethau i ddatblygu ymchwilwyr. Byddwn yn ailddatblygu ac yn ehangu ein cynlluniau ariannu ymchwil ac yn sefydlu canolfan newydd ar gyfer ymchwil ar ofal cymdeithasol oedolion. Byddwn yn parhau i weithio tuag at fentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a gofal pobl a’u cymunedau yng Nghymru. 

Ond ni allem ni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wneud dim o hyn heb ymrwymiad a gwaith caled llawer o sefydliadau a grwpiau eraill – ein cynrychiolwyr cleifion a chyhoeddus, ein prifysgolion, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol, a sefydliadau cenedlaethol eraill fel Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru – yn ogystal â llawer o rai eraill. Diolch hefyd i staff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r staff yn y sefydliadau a ariennir gennym am eu holl waith caled a’u cyfraniadau gwerthfawr i bopeth yr ydym wedi’i gyflawni yn 2022. 

Gyda dymuniadau gorau ar gyfer tymor y Nadolig, ac edrych ymlaen at lawer o gyfleoedd a gweithgareddau cyffrous yn 2023.  

Kieran