Ymwelwyr yng Ngŵyl Glan yr Afon yn dysgu mwy am y prosiect Talking Trials

Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Bydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil yn bwnc allweddol yn 7fed Cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gynhelir ar-lein ddydd Iau 14 Hydref 2021.

Mae'r pandemig wedi dod â'r mater pwysig o anghydraddoldeb iechyd i'r amlwg ond gall ymchwil chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod triniaethau a gofal wedi'u teilwra i leihau'r anghydraddoldebau hyn yn y dyfodol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn canolbwyntio ar roi pwyslais ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng nghymuned ymchwil Cymru er mwyn sicrhau bod pobl o bob grŵp, yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyfan yn teimlo y gallan nhw chwarae rhan mewn ymchwil.

Yn ogystal â hyn, yn y Fforwm Darganfod Eich Rôl Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd ym mis Mai, bu sesiynau'n archwilio enghreifftiau lle mae ymchwilwyr wedi canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth y bobl sy'n cyfrannu ac yn cymryd rhan.

Un enghraifft o sut mae ein cymuned ymchwil yn rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ei gwaith yw astudiaeth ymchwil Ganwyd yng Nghymru, dan arweiniad Canolfan Iechyd y Boblogaeth (NCPHWR). Nod yr astudiaeth barhaus hon yw deall a gwella iechyd a llesiant teuluoedd o Gymru â phlant ifanc. Un agwedd allweddol ar y prosiect hwn yw annog teuluoedd o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan drwy estyn allan isefydliadau fel Cyngor Hil Cymru a'r Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid (EYST), yn ogystal â defnyddio negeseuon wedi'u teilwra â’r nod benodol o ymgysylltu â'r grwpiau hyn.

Archwiliodd y prosiect Talking Trials, dan arweiniad y Ganolfan Treialon Ymchwil, ganfyddiadau o dreialon clinigol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nglan yr Afon, Caerdydd. Mae'r tîm wedi dysgu mwy am sut i oresgyn rhwystrau y gallai pobl o'r cymunedau hyn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn ymchwil drwy weithdai creadigol ar-lein.

Yn ogystal â hyn, mae'r grŵp ALPHA, sef 'Cyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd' ac sy'n cael ei gynnal gan DECIPHer, yn darparu cyfleoedd i grŵp amrywiol o bobl ifanc gymryd rhan mewn ymchwil. Mae'r grŵp yn helpu ymchwilwyr i gynllunio astudiaethau y maen nhw’n dymuno eu cynnal yng Nghymru trwy drafod materion yr ymchwil o safbwynt ifancach. Mae pob un o'r tri phrosiect hyn yn cael eu harwain gan sefydliadau ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dywedodd Reshma Raycoba, Pennaeth Dros Dro Cynnwys y Cyhoedd yn Llywodraeth Cymru, sy'n cadeirio'r Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd: “Byddwn yn parhau i archwilio'r rhwystrau i bobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cydweithio fel cymuned i ddod o hyd i'r atebion gorau. Er mwyn i ganlyniadau ein hastudiaethau fod yn effeithiol ac yn gynrychiolaeth deg o bobl yng Nghymru, mae'n hanfodol bod pawb yn cael eu cynnwys.

“Mae ein >strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd newydd yn canolbwyntio ar estyn allan i bobl yn eu cymunedau eu hunain a chyfathrebu'n gyson i feithrin ymddiriedaeth mewn ymchwil. Yn ogystal â'r gwaith hwn, yn ein Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar-lein, bydd panel trafod yn edrych ar ffyrdd y gallwn gynyddu cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb mewn astudiaethau yng Nghymru, ac rydym yn annog pawb sy'n ymwneud ag ymchwil i ymuno â ni ar eu cyfer.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r drafodaeth hon, a href="http://researchwalesconference2021.com/cy/cofrestrwch-i-gymryd-rhan">cofrestrwch i fod yn y Gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar-lein ar 14 Hydref 2021 am ddim.

Y dyddiad cau i ymuno â'r gynhadledd yw 4 Hydref.

Gallwch hefyd gofrestru i fod yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ym mis Tachwedd, sy'n ddigwyddiad rheolaidd lle gall pobl rannu arfer da a chael cymorth i gynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn ag ymchwil.

Os na aethoch chi i ddigwyddiad y Fforwm ym mis Mai, gallwch weld y cyflwyniadau

Penawdau lluniau: Ymwelwyr yng Ngŵyl Glan yr Afon yn dysgu mwy am y prosiect Talking Trials