Digwyddiadau Fforwm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd Mai 2021
Mae cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn rhannau hanfodol o’r broses ymchwil, ac mae’n bwysig bod ymchwil yn rhywbeth i bawb. Po fwyaf cynhwysol yw ymchwil, mwyaf oll ei dylanwad.
Ar 11 a 13 Mai 2021, cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’r Fforwm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd cyntaf yn sgil lansio’r Fforwm yn llwyddiannus ar 26 Ionawr 2021.
Gwahoddwyd y mynychwyr i glywed am ein cynnydd wrth ddatblygu gwaith cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth weithgorau’n cynnwys talu am ganllawiau cynnwys y cyhoedd a’n strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd. Y themâu a drafodwyd oedd: cynnwys aelodau’r cyhoedd mewn blaenoriaethu ymchwil a chwestiynau ymchwil a sut y mae hyn yn effeithio ar bolisi ac arfer, yn ogystal â chlywed oddi wrth brosiect INCLUDE ynglŷn â phwy yw’r cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol a sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth ac yn cael eu galluogi i gymryd rhan mewn ymchwil, yn ogystal ag oddi wrth ymchwilwyr sydd wedi llwyddo i ymgysylltu â’r cymunedau hyn.
Gallwch chi weld pob un o’r cyflwyniadau isod ac, os hoffech chi glywed mwy, cofrestrwch i dderbyn bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a/neu’r Bwletin Cynnwys y Cyhoedd neu cofrestrwch i ymuno â’r gymuned Cynnwys y Cyhoedd.
Y diweddaraf am y Fforwm
Yr hyn a ddywedoch chi wrthym ni – arolwg blaenoriaethu Darganfod Eich Rôl (PDF)
Reshma Raycoba, Pennaeth Cynnwys y Cyhoedd, Llywodraethu Ymchwil a Digidol y GIG (Dros dro), Llywodraeth Cymru
Datblygu Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PDF)
Felicity Walters, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mynd i’r afael â rhwystrau gweinyddol (PDF)
Reshma Raycoba, Pennaeth Cynnwys y Cyhoedd, Llywodraethu Ymchwil a Digidol y GIG (Dros dro), Llywodraeth Cymru
Pynciau’r Fforwm 11 Mai
Sut mae’r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn blaenoriaethu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol (PDF)
Emma Small, Uwch Reolwr Blaenoriaethu a Lledaenu, Llywodraeth Cymru
Chris Kemp-Philip, Cyfrannwr Cyhoeddus
Mae Pobl Ifanc wrth galon gweithgareddau DECIPHer (PDF)
Peter Gee, Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd, DECIPHer
Beth sy’n bwysicaf i chi? Gosod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (PDF)
Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Natalie Joseph-Williams, Cydarweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Pynciau’r Fforwm 13 Mai
INCLUDE - Gwell gofal iechyd trwy ymchwil fwy cynhwysol (PDF)
Laurie Oliver, Pennaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, y Rhwydwaith Ymchwil Glinigol
Cyfleoedd a heriau wrth ymgysylltu â chymunedau ym mhrosiect Ganwyd yng Nghymru (PDF)
Hope Jones, Ymchwilydd Arweiniol, prosiect Ganwyd yng Nghymru
Ashra Khanom, Cyfrannwr Cyhoeddus
Solmaz Safari, Cyfrannwr Cyhoeddus
Treialon Siarad – Ymgysylltu i Gynnwys (PDF)
Martina Svobodova, Cydymaith Ymchwil a Rheolwr Treialon
Sudipta Bandyopadhyay, Cynorthwyydd Addysgu a Chydymchwilydd Treialon Siarad
Dr Catherine Lamont-Robinson, Artist-addysgwr yn y dyniaethau meddygol