Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ennill statws Ymddiriedolaeth Brifysgol am ei ymroddiad i ddatblygu ymchwil
22 Ebrill
Mae'r statws pwysig hwn wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru i gydnabod ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth i ysgogi ymchwil ac arloesi ac i ddatblygu ei gweithlu presennol ac ar gyfer y dyfodol.
O 1 Ebrill 2024, mae enw'r Ymddiriedolaeth wedi ei newid i Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Meddai'r Athro Nigel Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesi: "Roedd yr Ymddiriedolaeth ymhlith y gwasanaethau ambiwlans cyntaf yn rhyngwladol i groesawu'r byd academaidd ac mae ganddi enw da ers amser maith am ddatblygu a darparu ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel.
"Mae statws Ymddiriedolaeth Brifysgol yn gydnabyddiaeth briodol o'r ymdrechion y mae ein pobl, a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cydweithio i ddatblygu gofal iechyd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy o'r radd flaenaf."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rwy'n falch iawn o roi statws Ymddiriedolaeth Brifysgol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad gan yr Ymddiriedolaeth i sicrhau bod arbenigedd a gweithgaredd prifysgol yn gwella ansawdd y gofal a'r canlyniadau i gleifion.
"Mae statws Ymddiriedolaeth Brifysgol yn unigryw i Gymru ac mae'n seiliedig ar asesiad cadarn o ystod eang o dystiolaeth ar draws ein tri maen prawf – Ymchwil a Datblygu; Addysg a Hyfforddiant; ac Arloesedd."
I wybod y diweddaraf am yr holl ymchwil a wneir gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a sefydliadau ymchwil eraill ledled Cymru cofrestrwch i gael ein bwletin.