Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru logo

Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi ‘Cymru’n Un’ ar gael ledled Cymru a’i nod yw darparu cymorth di-dor i noddwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd. Darperir y gwasanaeth yn genedlaethol gan y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi ac Arweinwyr Arbenigol cenedlaethol, ac yn lleol gan adrannau ymchwil a datblygu’r GIG.

Darperir y gwasanaethau Cefnogi a Chyflenwi yng nghyd-destun y DU gyfan, gan weithio’n agos gyda chymheiriaid yn y gwledydd eraill, i symleiddio gwasanaethau cefnogi a chyflenwi ymchwil er budd yr ymchwilwyr

Nodau’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi

Nod Strategol 1: Y cyhoedd

Byddwn yn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i gleifion a’r cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith ymchwil moesegol a diogel ac elwa ar hynny, waeth beth fo’u lleoliad daearyddol.

Nod Strategol 2: Cymuned Ymchwil

Byddwn yn galluogi ymchwilwyr mewn diwydiant a Phrif Ymchwilwyr i drefnu astudiaethau mewn amryw o safleoedd ledled Cymru a hynny mewn ffordd syml ac effeithiol gydag un pwynt mynediad.

Nod Strategol 3: Staff

Byddwn yn denu ac yn defnyddio staff cymwys a chanddynt y sgiliau a’r profiad priodol yn gyson ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan sicrhau bod gwerthoedd ac ymddygiad cyffredin yn bwrw gwreiddiau.

Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi 2017 - 22 Fframwaith Strategol (Saesneg yn unig)

Y Cymorth a ddarperir drwy’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi

Mae cymorth ar gael ar hyd y llwybr astudio ymchwil cyfan, gan gynnwys cymorth gyda chynllunio ac asesu ymarferoldeb, trefnu astudiaeth, cael cymeradwyaeth reoliadol, cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â hwy, recriwtio ar gyfer astudiaethau, gwaith dilynol a hyrwyddo ymchwil. 

Cynigir y gwasanaethau i bob ymchwilydd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd (eilaidd, sylfaenol a chymunedol) a chymdeithasol, ar gyfer ymchwil a noddir yn fasnachol ac yn anfasnachol. 

Mae gan y Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi raglen o welliant parhaus.

Cynllun Gwella’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi (Saesneg yn unig)  

 

Arweinwyr Arbenigeddau

Rhan allweddol o’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi yw’r rhwydwaith o Arweinwyr Arbenigeddau cenedlaethol sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi’r broses o gyflawni gwaith ymchwil mewn pynciau penodol a meysydd clefydau.

Maent yn gyfrifol am hyrwyddo a chynyddu cwmpas a gwasgariad astudiaethau ledled Cymru, ac mae Arweinwyr Arbenigol Cymru yn rhan o Grŵp Arbenigedd y DU, o dan arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).

Y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi

Fel rhan o’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi, mae’r Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi yn darparu cymorth ‘unwaith i Gymru’ megis: 

  • Cydlynu’r broses o drefnu astudiaeth 
  • Cydlynu’r gwasanaeth contractau a chostau ledled Cymru
  • Darparu gwasanaeth cyfathrebu, ymgysylltu a chynnwys
  • Darparu gwasanaethau hyfforddi a gwybodaeth 
  • Rheoli’r Cyfeirlyfr Ymchwil cynhwysfawr o’r ymchwil a wneir ledled Cymru
  • Cymeradwyo rheoliadau ymchwil fel rhan o Wasanaeth Cymeradwyo’r DU 
  • Cydlynu mentrau i gynyddu ymchwil masnachol, gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol
  • Gweithredu polisïau cyllid ymchwil a datblygu a monitro perfformiad ymchwil a datblygu’r GIG

Manylion cyswllt:

02920 230 457

ymchwiliechydagofal@wales.nhs.uk

Adrannau Ymchwil a Datblygu’r GIG 

Yn lleol, darperir y Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi gan adrannau ymchwil a datblygu’r GIG, sydd wedi’u lleoli ym mhob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru. Mae gan Gymru saith bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth y GIG.

Bydd arweinydd gweithredol ymchwil a datblygu ym mhob un o adrannau ymchwil a datblygu’r GIG (a’u tîm) yn cefnogi’r broses o sefydlu astudiaeth leol a’i chyflenwi. Yn ogystal, bydd rhai adrannau ymchwil a datblygu yn darparu gwasanaethau noddi astudiaeth. 

Y gwasanaethau a ddarperir gan adrannau ymchwil a datblygu yw:

  • Datblygu a chyflenwi strategaeth ymchwil ar gyfer y sefydliad, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o’r brifysgol
  • Darparu cymorth i ymchwilwyr lleol ar hyd y llwybr ymchwil, o wneud cais am grant i ddosbarthu’r canlyniadau
  • Sicrhau bod gwybodaeth am ymchwil ar gael i gleifion a chlinigwyr lleol
  • Sicrhau bod staff ac adnoddau eraill ar gael er mwyn gallu darparu astudiaethau
  • Sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol, rheoliadol ac ariannol sy’n ymwneud â’r ymchwil y mae’n ei wneud neu’n ei noddi, gan reoli’r risgiau sy’n ymwneud â’r cyfrifoldebau hyn

Cysylltwch ag adrannau ymchwil a datblygu GIG Cymru