Young people at a workshop

Blwyddyn o ymrwymiad ar y cyd i waith rhagrool cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

10 Mawrth

Mae 10 Mawrth 2023 yn nodi blwyddyn ers i arianwyr, rheoleiddwyr a sefydliadau ymchwil sy’n chwarae rhan bwysig ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol y DU ddod at ei gilydd, gan weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, i gytuno ar ymrwymiad newydd ar y cyd i wella gwaith hanfodol cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil.

Trwy’r gwaith hwn, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio gyda’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal a llu o sefydliadau ledled y DU i beri newidiadau a fydd yn gwella safonau ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd sefydliadau sy’n aelodau’n cydweithio i ddarparu gwasanaeth cyfeirio ac adnoddau i helpu ymchwilwyr i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, er mwyn helpu i sicrhau bod eu hymchwil yn gynhwysol, yn foesegol ac yn ymatebol i anghenion a diddordebau eu poblogaeth darged.

Mae’n hanfodol cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil a, thrwy gynnwys aelodau’r cyhoedd mewn dylunio, cynnal a lledaenu canlyniadau ymchwil, gall ymchwilwyr ddod i ddeall profiadau, safbwyntiau ac anghenion eu poblogaeth darged yn well. Mae hyn yn arwain at ymyriadau a thriniaethau mwy effeithiol a phriodol.

Mae Eirwen Malin, sef cyfranogwr cyhoeddus sy’n cymryd rhan mewn datblygu’r ymrwymiad ar y cyd, yn rhannu ei phrofiad:

“Cefais i ddiagnosis o glefyd Parkinson bron i naw mlynedd yn ôl. Mae’n gyflwr nad yw’n bosibl gwella’n llwyr ohono, felly mae dilyn yr ymchwil ddiweddaraf yn uchel ar fy agenda. Mi ddechreuais i gymryd rhan mewn ymchwil, trwy Parkinson’s UK i ddechrau, gan ei fod yn gyfle i wneud rhywbeth defnyddiol â fy mhrofiad personol o fod â chlefyd Parkinson.

“Rydw i wedi gweld sawl gwaith yr effaith y mae cynnwys pobl â’r profiad personol perthnasol yn gallu ei chael ar ansawdd ac effeithlonrwydd ymchwil. Pan gododd y cyfle i weithio gyda’r grŵp hwn o sefydliadau, sydd wrth galon ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, i ddatblygu Ymrwymiad ar y Cyd i gynnwys y cyhoedd, roeddwn i’n falch o gyfrannu.”  

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’r cyhoedd wrth galon ymchwil yng Nghymru ac mae cynnwys y cyhoedd yn hollbwysig i wneud yn siŵr bod ymchwil yn ymatebol i anghenion a diddordebau’r rheini y mae’n anelu i’w gwasanaethu, a’i bod yn arwain at ddeilliannau iechyd a gofal cymdeithasol gwell i bawb.

“Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o’r cydweithredu hwn sy’n wirioneddol hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwaith cynnwys y cyhoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn trwy gydweithio i ddatblygu ein hymchwil a’n prosesau – gan ddefnyddio profiadau bywyd go iawn i helpu i lunio ymchwil sy’n wirioneddol ystyrlon.”

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd diweddaraf i helpu gydag ymchwil drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.