Dad reading a book to children

Ymchwil partneriaeth CASCADE yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol

21 Rhagfyr

Mae ymchwilwyr Partneriaeth y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), canolfan ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith trwy'r cyfryngau ac mewn tystiolaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae gwerthusiad CASCADE o'r Rhaglen Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS) gwerth £6.5 miliwn yn Lloegr wedi cael ei nodi gan Drysorlys EF fel enghraifft o astudiaeth o ansawdd uchel a ddefnyddir i lywio penderfyniadau gwariant y llywodraeth, gydag Erthygl ddiweddar yn The Guardian yn tynnu sylw at brosiect SWIS, y mae'r Canghellor, Rachel Reeves, yn bwriadu ei adolygu, wedi i ymchwilwyr CASCADE canfod y prosiect fel un nad yw'n gost-effeithiol.

Mae ymchwilwyr sy'n arbenigo mewn Camfanteisio Troseddol Plant hefyd wedi darparu tystiolaeth i ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru. Mae papur gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei gyhoeddi, sy'n cydnabod ymchwil CASCADE, gyda'r Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth ac adnoddau a deunyddiau hyfforddi a ddatblygwyd gan Dr Nina Maxwell, gyda chyllid prosiect gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei argymell yn benodol i'w ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol, tai a'r heddlu. 

Ac mae Adroddiad ar Ddieithriad Rhieni, y mae ymchwilwyr CASCADE wedi darparu mewnbwn iddo, wedi cael ei nodi o fewn straeon newyddion y BBC. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol gan y bydd yn arwain at newidiadau mewn penderfyniadau a wneir mewn llysoedd teulu, gan effeithio yn y pen draw ar fywydau plant.

Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwyr Dros Dro, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae gwaith partneriaeth CASCADE yn enghraifft wych o sut y gall ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth ddylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer.  Rydym yn falch o gefnogi prosiectau mor effeithiol, sy'n cyfrannu at hyrwyddo gofal cymdeithasol ac ysgogi newid ystyrlon, cadarnhaol ar draws y sector."