
Adolygiad Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn amlygu'r angen am fwy o ymchwil i roi'r gorau i ysmygu
12 Mawrth
Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal adolygiad o ymchwil sy'n edrych ar ba mor effeithiol yw strategaethau rhoi'r gorau i ysmygu i bobl sy'n byw gydag iselder neu orbryder.
Mae cyfraddau ysmygu ymhlith pobl â chyflyrau iechyd meddwl dros ddwbl cyfradd y boblogaeth gyffredinol ac mae'r grŵp hwn yn llai tebygol o fynd at wasanaethau am help i roi'r gorau iddi, gan gostio dros £3 miliwn i'r GIG yng Nghymru bob blwyddyn.
Awgryma’r dystiolaeth y gall effeithiau buddiol rhoi'r gorau i ysmygu fod "gyfartal â chanlyniadau cymryd meddyginiaeth gwrth-iselder." Nod y Ganolfan oedd helpu i nodi'r strategaethau mwyaf effeithiol, fel cwnsela neu ymarfer corff, i bobl ag iselder neu orbryder.
Trwy'r adolygiad, a gasglodd ymchwil o bob cwr o'r byd at ei gilydd, daeth y Ganolfan i'r casgliad bod angen mwy o ymchwil yn y DU i ddeall yn well a yw strategaethau presennol yn cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau ysmygu.
Crëwyd y Ganolfan, a lansiwyd yn 2023, i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion, ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau, i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu Cymru.
Gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru o 13% i lai na 5% erbyn 2030, gofynnodd Llywodraeth Cymru am yr adroddiad hwn i helpu i lywio'r Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco, sydd wedi'i ddiweddaru. Bydd y tîm yn cyflwyno'r canfyddiadau i'r Bwrdd Strategaeth Rheoli Tybaco yn ddiweddarach eleni.
Meddai'r Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae ysmygu yn un o brif achosion salwch a marwolaeth y gellir eu hatal, ac mae ymchwil fel hyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael y cymorth gorau i roi'r gorau iddi.
"Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu sylfaen dystiolaeth o ansawdd uchel er mwyn gwella polisi a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol."
Dywedodd Olivia Gallen, aelod o'r cyhoedd a fu'n rhan o'r astudiaeth: "Mae llais y cyhoedd yn bwysig iawn mewn ymchwil, yn enwedig ar gyfer materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Mae'r pynciau hyn yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd, ac mae wedi bod yn gadarnhaol bod yn rhan o rywbeth sy'n ceisio tynnu sylw at y berthynas gymhleth rhwng iechyd meddwl a'r gallu i roi'r gorau i ysmygu.
"Mae'r ffactorau hyn mor aml yn gysylltiedig, ac eto nid oes llawer o wybodaeth am y ffordd orau o gefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl i roi'r gorau i ysmygu. Felly, mae'r ymchwil hon yn bwysig i wasanaethu'r cymunedau hyn yn well a helpu i'w harwain tuag at yr ymyriadau sy'n cefnogi anghenion pobl orau wrth geisio rhoi'r gorau i ysmygu."
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.