Jonathan Underwood and Gareth Cross with other award winners

Cydnabod ymchwil ysbrydoledig o Gymru yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

21 Hydref

Mae ymchwilwyr o bob cwr o Gymru unwaith eto wedi eu dathlu am eu gwaith ysbrydoledig ac arloesol yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025.

Cyflwynwyd y gwobrau yn negfed cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 16 Hydref yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. Wrth agor y gynhadledd, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, 

Rwy'n falch iawn o ymuno â chi i gyd i ddathlu 10 mlynedd o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn rhoi cyfle i'r gymuned gyfan ddod at ei gilydd i rwydweithio, rhannu syniadau ac arferion gorau.

"Mae ymchwil yn hanfodol i sicrhau Cymru iachach. Mae'n ysgogi arloesedd, yn dangos i ni beth sy'n gweithio orau i wasanaethu poblogaethau ac mae'n hanfodol i'n helpu i sicrhau canlyniadau iachach.

"Mae'r cyflawniadau dros y degawd diwethaf yn sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol ymchwil yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at ategu’r gwaith gwych hwn yn ystod y degawd nesaf."

Roedd y gwobrau'n cydnabod cymuned ymchwil Cymru mewn pedwar categori: Cynnwys y Cyhoedd, Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Seren Ymchwil sy'n Dod i’r Amlwg ac Ymgorffori Ymchwil, categori newydd ar gyfer eleni. Rhoddwyd pumed gwobr am arddangosfa fwyaf diddorol y gynhadledd.

Penderfynwyd ar yr enillwyr gan banel o feirniaid o bob rhan o'r sector, a dyfarnwyd cyllid o hyd at £250 iddynt i gyd i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad i ddatblygu maes o'u set sgiliau ymchwil.

Wrth gyflwyno'r gwobrau, dywedodd Gareth Cross, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae'n anrhydedd ac yn bleser cyflwyno'r gwobrau hyn i rai o'r goreuon ym maes ymchwil yng Nghymru. Mae cryfder a nifer y ceisiadau eleni yn dangos pa mor gyffrous a deinamig yw’r amgylchedd ymchwil sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae'n dyst i waith caled, angerdd ac arloesedd yr unigolion a'r timau dan sylw. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a diolch am eich gwaith gwych."

Darllenwch ymlaen am y rhestr lawn o'r enillwyr.

Enillwyr Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal 2025

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd: Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r wobr hon yn cydnabod y defnydd gorau o gynnwys y cyhoedd mewn astudiaeth ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, gan ddefnyddio Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd

Yr enillydd oedd Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE. Mae'r Grŵp yn cynnwys rhieni sydd â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol plant, sy'n chwarae rhan bwysig wrth gyfarwyddo a lledaenu ymchwil CASCADE, gan gynnwys cyd-gynhyrchu erthygl a gyhoeddwyd yn y British Journal of Social Care dros yr haf.

Gwnaed argraff cryf ar y panel gan yr arddangosiad clir o weithgarwch cynnwys y cyhoedd enghreifftiol yn ymarferol, a chanmolodd ymrwymiad strwythuredig a hirsefydlog y grŵp i gyfranogiad.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Rachael Vaughan, Rheolwr Ymgysylltu CASCADE, "Mewn gwaith cymdeithasol, mae llawer o'r ymyraethau’n cael eu gwneud i deuluoedd, nid gyda nhw. Oherwydd natur eu profiadau, mae'n bwysig iawn nad yw'r un peth yn cael ei wneud mewn ymchwil a'n bod ni'n gweithio gyda nhw ac yn gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn ganolog.

"Mae'n brin clywed cymaint gan rieni, yn enwedig y rhai sydd wedi cael yr ymyrraeth fwyaf difrifol gan weithwyr cymdeithasol. Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn i weithio mewn partneriaeth â'r rhieni i ddod o hyd i'r ffordd orau o weithio gyda'n gilydd. Mae’n rhoi boddhad iddynt bod yn rhan ohono ac roedd hynny’n amlwg yn y papur a ysgrifennwyd gennym gyda'n gilydd.

"Rwyf wastad yn cofio un rhiant yn dweud wrthyf nad oes llawer y gall ei wneud nawr i newid pethau sydd wedi digwydd yn ei bywyd a rhai o'i hamgylchiadau, ond os gall ei ddefnyddio i newid rhywbeth i un person arall, efallai ei fod wedi digwydd am reswm."

Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol – ACT-for-PNMH, Cerith Waters a Jennifer Berrett, Prifysgol Caerdydd; Claire Traylor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Mae'r wobr hon yn cydnabod y gwahaniaeth y mae ymchwil Cymru yn ei wneud i fywydau bob dydd pobl a'r gwahaniaeth y gall pobl ei wneud i'r ymchwil honno.

Yr enillwyr oedd Cerith Waters, Jennifer Berrett a Claire Traylor am eu hymyrraeth iechyd meddwl amenedigol yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT-PNMH).

Nododd y panel beirniaid bwysigrwydd y pwnc hwn, gan gynnwys y cyhoedd yn amlwg trwy gydol a'r dull "hyfforddi'r hyfforddwr". Hyd yn hyn mae ACT-PNMH wedi'i gyflwyno mewn pump o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, ac mae partneriaethau wedi'u ffurfio gyda chydweithwyr yn y GIG Lloegr, UDA, Pacistan a Malaysia i alluogi cyflawni rhyngwladol.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Cerith Waters, "Mae ACT-for-PNMH yn ymyrraeth seicolegol ar gyfer trin cyflyrau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod perinatal, a ddarperir mewn gwasanaethau iechyd meddwl perinatal arbenigol yn GIG Cymru. Mae'n mynd i'r afael â bwlch pwysig yn y ddarpariaeth gwasanaeth trwy ehangu mynediad at therapi seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fenywod â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol yn ystod beichiogrwydd, neu'r ddwy flynedd gyntaf ar ôl genedigaeth."

Gwobr Seren Ymchwil sy'n Dod i’r Amlwg – Dr Wioleta Zeleck, Prifysgol Caerdydd

Mae'r wobr hon ar gyfer ymchwilwyr sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, sy’n gwneud cyfraniadau sylweddol i'w maes, ac yn arweinydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y dyfodol.

Gwnaeth y cynnydd yn nifer y ceisiadau ar gyfer y categori hwn o'i gymharu â'r llynedd greu argraff ar y panel, ond yr enillydd oedd Dr Wioleta Zeleck, y mae ei gwaith arloesol ym maes clefydau llidiol fel arthritis gwynegol, sglerosis ymledol a chlefyd Alzheimer eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Ochr yn ochr â'i swydd fel Cymrawd Ras yn Erbyn Dementia ac aelod o Academi Ifanc y DU, mae hi hefyd yn angerddol am fentora'r genhedlaeth nesaf, arwain hyfforddiant cenedlaethol a goruchwylio myfyrwyr PhD ac MSc.

Dywedodd Dr Zeleck, "Cefnogwyd fy nghymrodoriaeth gyntaf gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a dyna lle dechreuodd popeth i mi, wrth edrych ar y cyflyrau hyn yn fwy cyffredinol a sut y gallwn dargedu cydrannau ar gyfer therapi.

"Rwyf wrth fy modd yn gweld sut mae pobl yn symud ymlaen, ac rwy'n ceisio gwneud popeth y gallaf i'w cefnogi, boed yn gwrs hyfforddi neu fentor neu leoliad gwahanol. Roedd gen i fentor gwych a gefnogodd fi ac rydw i eisiau parhau â'r diwylliant hwn a'u helpu cymaint ag y gallaf."

Ymgorffori Ymchwil – Tîm Clefydau Heintus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae'r categori gwobr newydd hwn yn cydnabod cyflawniadau unigolion neu dimau lle mae ymchwil yn cael ei gofleidio, ei integreiddio mewn gwasanaethau ac yn rhan greiddiol o ddiwylliant y sefydliad.

Yr enillydd oedd y Tîm Ymchwil Clefydau Heintus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, am lwyddo i wneud ymchwil yn rhan o ofal clinigol arferol. Mae'r newid hwn mewn diwylliant yn cael ei dystiolaeth gan eu sefyllfa fel recriwtiwr haen uchaf ar draws nifer o wahanol dreialon heintiau, gan gynnwys treial SNAP. Roedd gwaith trawsddisgyblaethol rhwng clinigwyr a'r labordy yn golygu eu bod yn adolygu pob claf â bacteremia Staphylococcus aureus, haint cyffredin sy'n peryglu bywyd. Mae data treialon diweddar wedi profi budd gwrthfiotigau amgen dros y safon gofal bresennol, canfyddiad a fydd yn newid arfer byd-eang.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd John Underwood, Ymgynghorydd Clefydau Heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, "Rwy'n credu y dylai treialon clinigol fod yn rhan o ofal clinigol arferol. Bydd ymchwil glinigol yn digwydd mewn bron pob maes meddygaeth. Mae tystiolaeth dda i ddangos bod ysbytai sy'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil yn cael canlyniadau gwell i gleifion yn gyffredinol. Mae'n gwella gofal clinigol ac yn ysgogi safonau i wella. Mae'n caniatáu i gleifion gael y triniaethau diweddaraf a hyd yn oed os nad ydyn nhw'n elwa eu hunain, byddan nhw o fudd i bobl yn y dyfodol."

Gwobr Arddangosfa Fwyaf Diddorol

CMO for wales shaking hands with the winner of the best stand

Roedd arddangosfa y gynhadledd yn cynnwys cyfanswm o 27 o sefydliadau o bob rhan o gymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Pleidleisiodd pawb a oedd yn bresennol dros y stondin fwyaf diddorol a chreadigol drwy gydol y dydd, a chyflwynwyd y wobr i'r Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd.

Darllenwch fwy am ddegfed gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.