Dentist examining patient

Ymchwil i lywio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal deintyddol y GIG

12 Medi

Mae astudiaeth ymchwil wedi nodi chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer gwella gofal deintyddol y GIG yng Nghymru trwy ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru sut y dylai gwasanaethau edrych.

Defnyddiodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n helpu i sicrhau bod Gweinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill yn manteisio ar yr ymchwil drylwyr ddiweddaraf, gyfweliadau a gweithdai gyda chymunedau amrywiol i ddarganfod beth oedd yn bwysig iddyn nhw.

Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddatblygu Rhaglen Diwygio'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol i Gymru, a ailddechreuodd ym mis Ebrill 2022 ar ôl oedi yn ystod pandemig COVID-19. Nod y rhaglen yw darparu mynediad at ofal deintyddol diogel o ansawdd uchel sy'n ymateb i anghenion y boblogaeth.

I gyd-fynd â'r nod hwn, canolbwyntiodd astudiaeth y Ganolfan ar ddeall disgwyliadau ac uchelgeisiau’r cyhoedd a’r defnydd maen nhw’n ei wneud o wasanaethau, yn ogystal â datblygu atebion ar y cyd â'r rhai yr effeithir arnynt.

Amlygodd y gwaith hwn fod y cyhoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi mynediad hawdd at ofal deintyddol brys a rheolaidd, gyda'r prif flaenoriaethau yn cynnwys:

  • Mynediad hawdd ac amserol
  • Fforddiadwyedd
  • Gwasanaethau deintyddol cynhwysol
  • Cyfathrebu da
  • Gofal effeithiol gan y person cywir
  • Addysg a chefnogaeth ar gyfer hunanreoli

Dywedodd Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol Cymru: “O ymchwil flaenorol, rydym yn gwybod bod rhwystrau allweddol i gael gafael ar ofal deintyddol y GIG, ond ychydig iawn a wyddom am safbwynt poblogaeth Cymru ynghylch gwasanaeth deintyddol delfrydol gan y GIG”.

“Mae'r Ganolfan Dystiolaeth wedi bod yn werthfawr iawn wrth fy helpu i archwilio gweledigaeth y cyhoedd. I mi, mae cael y persbectif cyhoeddus hwnnw ar wasanaeth derbyniol yn gwbl hanfodol wrth benderfynu ar bolisïau.”

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'n hanfodol sicrhau bod gwasanaethau deintyddol yn diwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio, a dyna a’n hysbrydolodd i archwilio beth mae'r cyhoedd yn ei feddwl am ddyfodol y gwasanaethau hyn.

“Does dim astudiaeth sy’n cyfateb i’r astudiaeth hon yn Lloegr ac rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a thimau deintyddol y GIG i sicrhau bod barn y cyhoedd yng Nghymru yn ganolog i unrhyw newidiadau mewn polisi ac ymarfer.”

Yn dilyn lansiad y Ganolfan ym mis Ebrill 2023, mae'r tîm ymroddedig wedi bod yn gweithio'n agos gydag arweinwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol i sicrhau bod bylchau a blaenoriaethau allweddol o ran tystiolaeth yn cael eu nodi er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu a gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.

Yn yr astudiaeth hon, gofynnwyd i'r cyfranogwyr beth maen nhw'n ei ddeall ar hyn o bryd am wasanaethau deintyddol y GIG. Mae gan lawer o unigolion wybodaeth gyfyngedig am y tîm deintyddol, sut a phryd i gael mynediad at y gwasanaethau brys a sut i reoli iechyd y geg eu hunain.

Cymerodd Anthony Cope, aelod o Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ran yn yr astudiaeth hon. Dywedodd: “Cefais fy nenu i'r prosiect deintyddol oherwydd mae gen i brofiad o fod yn glaf deintyddol y GIG yn y gorffennol.

“Roedd hi'n bwysig iawn bod fy marn yn cael ei chlywed gan bobl a allai ddylanwadu ar newid yn y system, allwch chi ddim cael rhywun llawer mwy dylanwadol na Phrif Swyddog Deintyddol Cymru. Fe ges i fy nghlywed ac roeddwn i’n gallu dylanwadu ar y prosiect cyfan gyda fy mhrofiad a chynrychioli'r cyhoedd yng Nghymru.”

Darllenwch adroddiad llawn yr astudiaeth ar wefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i sicrhau na fyddwch byth yn colli stori ymchwil eto.