Researcher workshop

Ymchwilwyr wedi'u dewis ar gyfer rhaglen uchel ei pharch Crwsibl Cymru

17 Gorffennaf

Mae dau ymchwilydd o'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) wedi eu dewis ar gyfer y rhaglen datblygu arweinwyr Crwsibl Cymru.

Ar gyfer ymchwilwyr yng Nghymru sy'n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu meysydd y mae rhaglen arobryn Crwsibl Cymru. Mae Dr Emma Richards o CADR, a Dr Ian Davies-Abbott, ymysg y 30 o ymchwilwyr a ddewiswyd o bob cwr o Gymru ar gyfer y garfan eleni. Byddant yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfres o weithdai sy'n archwilio sut y gall cydweithio helpu i fynd i'r afael â'r heriau ymchwil y mae Cymru'n eu hwynebu a gwella effaith eu hastudiaethau eu hunain.

Mae Dr Emma Richards yn uwch swyddog ymchwil sy'n archwilio'r ffactorau biolegol a'r newidiadau yn yr ymennydd dros wahanol gyfnodau o ddementia fasgwlar a sut mae hyn yn effeithio ar fywyd gyda'r cyflwr. Mae hi hefyd yn archwilio colli clyw fel ffactor risg ar gyfer datblygu dementia.

Mae Dr Ian Davies-Abbott yn gyd-arweinydd ar gyfer prosiect Amgylcheddau Heneiddio CADR, yn edrych ar yr amgylcheddau ffisegol a chymdeithasol o'n cwmpas wrth i ni heneiddio.

Mae Dr Emma Rees, Athro Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, hefyd wedi ei dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru eleni. Mae hi'n ymchwilio i effaith nyrsys yn ychwanegu sgan â ffocws ar y galon a'r ysgyfaint yn ystod eu hymweliadau cartref â phobl hŷn yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Bydd Dr Rees, Dr Richards a Dr Davies-Abbott hefyd yn elwa ar y gefnogaeth a'r cysylltiadau a gynigir drwy rwydwaith cyn-fyfyrwyr Crwsibl Cymru.

Mae rhaglen Crwsibl Cymru yn cael ei hariannu gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.