CADR logo

Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR)

Mae’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n mynd i’r afael â chwestiynau allweddol sydd yn rhyngwladol bwysig ym maes heneiddio a dementia, ac yn gwneud hynny drwy adeiladu ar rwydweithiau ymchwil trawsffurfiol cyfredol a gydnabyddir yn rhyngwladol.  Mae’r Ganolfan yn integreiddio gweithgaredd amlddisgyblaethol ac yn datblygu meysydd rhagoriaeth o’r biolegol, y seicogymdeithasol a’r amgylcheddol, i bolisi cymdeithasol ym maes heneiddio a dementia.