Taith annisgwyl i arweinyddiaeth ymchwil: Cynghorydd Datblygu Ymchwilwyr Gofal Cymdeithasol Dr Martin Elliott
22 Mehefin
O waith cymdeithasol i arweinyddiaeth ymchwil.
Gwnaeth Dr Martin Elliott, Cynghorydd Datblygu Ymchwilwyr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Uwch Gymrawd Ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, ddechrau ei yrfa fel gweithiwr cymdeithasol mewn awdurdod lleol.
Datblygu diwylliant ymchwil mewn gofal cymdeithasol
Gyda mwy nag 16 mlynedd o brofiad o ofal cymdeithasol gyda gwasanaethau plant mewn awdurdodau lleol, roedd gan Martin ddiddordeb ers to byd mewn ymchwil a arweiniodd yn y pen draw at ddilyn PhD, gan ymchwilio i’r rhesymau y tu ôl i gyfradd uwch Cymru o blant sy’n mynd i ofal o’i gymharu â gweddill y DU.
Dywedodd: "Pan benderfynais i fy mod i eisiau cynnal ymchwil gofal cymdeithasol, doeddwn i wir ddim yn gwybod ble i ddechrau. Fe wnes i ysgrifennu rywfaint o e-byst at bobl y gwnes i ddod o hyd iddyn nhw ar wefan Prifysgol Caerdydd ac yn ffodus, cefais i ymateb gan rywun a gefnogodd fy nhaith - a ddechreuodd gyda phaned bach o de a sgwrs.
"Fy rôl fel Cynghorydd Datblygu Ymchwilwyr yng Nghyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw gwneud yn union hynny."
Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr
Mae Cynghorwyr Datblygu Ymchwilwyr yn uwch ymchwilwyr sy’n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni hyfforddi ymchwilwyr, ac yn cynnig cyngor arbenigol i aelodau’r Gyfadran ar ddatblygu eu gyrfa ymchwil. Mae’r swydd hon yn caniatáu i Martin gefnogi arweinwyr ymchwil y dyfodol yr oedd ganddo ef brofiad ohonynt yn Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru lle canolbwyntiodd ef ar ddatblygu dull o blaid ymchwil yn y gweithlu gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn gwasanaethau plant.
Mae Martin hefyd yn manteisio ar ei brofiad o dderbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy Grant Gofal Cymdeithasol i sefydlu rhaglen meithrin gallu ymchwil gofal cymdeithasol yn CASCADE. Roedd y rhaglen hon yn cynorthwyo’r rhai a oedd â diddordeb mewn gyrfaoedd ymchwil, gan gynnwys unigolion â phrofiad bywyd o dderbyn gofal fel plentyn.
Aeth Martin ymlaen i ddweud: "O ystyried y pwysau sydd ar wasanaethau gofal cymdeithasol, mae’n debyg bod mwy o angen nawr nag erioed i wneud pethau sy’n deillio o ymchwil, sy’n ein galluogi ni i ddeall y poblogaethau yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw’n well."
Grymuso staff drwy sgiliau ymchwil
Fodd bynnag, mae Martin yn cydnabod nad oes angen PhD ar bawb.
"Mae’n bwysig meithrin diwylliant o chwilfrydedd o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Os byddech chi’n gwybod yr atebion i gyd nawr fyddai dim pwrpas gwneud PhD.
"Rwy’n falch iawn o sut rydw i wedi cefnogi ymarferwyr gofal cymdeithasol i ddechrau eu teithiau ymchwil. Erbyn hyn mae tua phedwar o bobl wedi mynd ymlaen i ddechrau eu PhD, yn rhannol, o ganlyniad i sgwrs gychwynnol â mi, neu fy mod i wedi’u cyfeirio neu’u cefnogi nhw. Gall y byd academaidd godi braw, yn enwedig ar y rhai yn ein sector ni, felly mae’n bwysig datblygu rhwydwaith cefnogol o weithwyr proffesiynol. Trwy uwchsgilio staff i gynnal ymchwil mae’n eu grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol yn ymarferol heb aros am gyfarwyddebau polisi o’r brig i lawr."
Rhan y Brifysgol yn galluogi newid
Mae’r Gyfadran yn chwarae rhan wrth hwyluso’r newidiadau hyn trwy ddarparu adnoddau a rhaglenni hyfforddi. Er enghraifft, gall gweithdai ar gynnal cyfweliadau ansoddol neu adolygiadau llenyddiaeth gymhwyso unigolion â’r sgiliau i archwilio’u syniadau a gweithredu newidiadau cadarnhaol.
Mae rhan Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nid yn unig yn cefnogi gyrfaoedd ymchwil ond mae hefyd yn grymuso unigolion sydd â syniadau da i wneud gwahaniaeth yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae cymaint mwy o ddewis nawr o ganlyniad i’r Gyfadran."
Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol i ddarganfod sut y gall Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru helpu i alluogi eich gyrfa ymchwil chi heddiw.