llun o Zoe Fisher

Seicolegydd clinigol o Abertawe yn ennill gwobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil

23 Rhagfyr

Mae Dr Zoe Fisher, seicolegydd clinigol ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi ennill y wobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil yng Ngwobrau Advancing Healthcare (AHA) Cymru 2021.

Mae AHA Cymru yn dathlu gwaith pwysig gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru.

Mae Zoe yn arwain gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol i bobl sy'n byw gydag anaf i'r ymennydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ogystal â gweithio yn yr Academi Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Zoe: "Rwy'n angerddol dros wella lles hirdymor pobl sydd ag anaf i'r ymennydd, felly mae'n wych bod y gwaith hwn yn cael ei gydnabod drwy'r wobr hon. Gall anaf i'r ymennydd amharu ar bob agwedd ar fywyd person. Yn sydyn iawn, gall bywyd newid yn llwyr.

"Mae pobl yn dioddef problemau gyda'r cof, canolbwyntio, blinder a chur pen, i enwi rhai symptomau. Efallai y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd gwneud tasgau o ddydd i ddydd neu ddychwelyd i'r gwaith. Gall effaith drychinebus anaf i'r ymennydd arwain at gorbryder, iselder, ynysu cymdeithasol a cholli ymdeimlad o hunaniaeth ac ystyr mewn bywyd."

Gan weithio ar y cyd ag Andrew Kemp, athro seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â myfyrwyr PhD, staff a chleifion y GIG, mae gwaith Zoe wedi arwain at ddatblygu'r fframwaith GENIAL. Mae'r fframwaith newydd hwn yn nodi ffactorau pwysig sy'n arwain at iechyd a lles hirdymor cadarnhaol yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Gan ddefnyddio mewnwelediad o'r fframwaith hwn, cynlluniodd y tîm driniaethau newydd i gefnogi adsefydliad pobl sydd wedi’u heffeithio gan anaf i'r ymennydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithredu cwrs grŵp lles wyth wythnos ar gyfer cleifion ym Mae Abertawe a Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Zoe: "Yn y cwrs, mae cleifion yn archwilio ffyrdd y gallen nhw dyfu yn sgil emosiynau anodd, a’u derbyn a’u rheoli, yn ogystal â dysgu ffyrdd o gynyddu emosiynau cadarnhaol. 

"Mae cleifion yn dysgu am bwysigrwydd cysylltiad cymdeithasol a chysylltiad â natur er lles. Pan ofynnwyd iddynt, soniodd cleifion a fynychodd y grŵp am sut y bu modd iddynt gysylltu ag eraill a rhannu profiadau, yn ogystal ag ailddarganfod ymdeimlad o bwrpas a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi eto."

Yn aml, roedd cleifion a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol yn mynd yn ynysig yn gymdeithasol dros amser, a allai arwain at dristwch a hwyliau isel. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, sefydlodd Zoe a'r tîm grwpiau adsefydlu ar y cyd gyda nifer o sefydliadau i helpu cleifion sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i barhau i fod yn gysylltiedig â'u cymuned. 

Drwy bartneriaethau â phrosiect Down to Earth a Surfability UK, mae'r tîm wedi gallu darparu prosiectau awyr agored i gleifion, gan ganiatáu iddynt dreulio amser ym myd natur, datblygu sgiliau newydd a rhoi yn ôl i'r gymuned drwy gyfleoedd gwirfoddoli.

Dywedodd Zoe: "Yn aml rydym yn canolbwyntio ar drin y salwch neu'r symptomau yn unig yn hytrach nag edrych ar drin lles y person cyfan. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd ag anaf i'r ymennydd ond rwy'n credu y gallai'r dull hwn fod o fudd i gleifion â chyflyrau cronig eraill hefyd."

Roedd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y panel beirniadu ar gyfer y wobr hon.

Dywedodd: "Mae'r Wobr am Gyflawni Ymchwil Eithriadol yn cydnabod unigolion sy'n defnyddio cydweithio rhagorol i gyflwyno ymchwil sy'n gwella bywydau pobl yng Nghymru. Dangosodd Zoe y lefel uchaf o arweinyddiaeth a chydgysylltu. Gwnaeth ei brwdfrydedd, ei hegni a'i dewrder i fynd ar ôl cyfleoedd newydd i gefnogi a helpu cleifion argraff dda arnom."

Dyfarnwyd cyllid i Zoe ar gyfer treial dichonoldeb a reolir ar hap i ddangos effaith y fframwaith GENIAL a'i ymyriadau drwy'r cynllun Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd, a fydd yn dechrau yn 2022.

Cyhoeddwyd enillwyr wyth categori gwobrau AHA Cymru mewn seremoni ar-lein. Noddwyd y Wobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dysgwch fwy am enillwyr eraill AHA Cymru 2021.

Dysgwch fwy am waith Zoe a'i chydweithwyr yn www.genialscience.org.uk