Mahendra Patel, Carys Thomas, Isabel Oliver, Andrew Dickinson

"Gall Cymru fod yn enghraifft ddisglair o ymchwil gynhwysol" – Prif Swyddog Meddygol Cymru yn lansio cynllun gweithredu cynhwysiant

23 Medi

Croesawodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, gydweithwyr o bob rhan o'r GIG, y llywodraeth, addysg a'r trydydd sector i ddigwyddiad yn y Senedd, i lansio Cynllun Gweithredu Cynhwysiant tair blynedd newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Roedd y digwyddiad, dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Deintyddol Andrew Dickinson, hefyd yn nodi lansiad partneriaeth newydd rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r CFRE (Centre for Research Equity) Prifysgol Rhydychen. 

Roedd Dr Mahendra Patel, cyfarwyddwr sefydlol ac arweinydd Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn CFRE, yn un o nifer o siaradwyr ysbrydoledig, a oedd hefyd yn cynnwys yr Athro Chris George, cadeirydd y Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd (NCRN), ymhlith eraill. 

Dywedodd yr Athro Oliver, 

Nid yw salwch wedi'i ddosbarthu'n gyfartal mewn cymdeithas. Os nad yw ymchwil yn cynrychioli'r rhai yr effeithir arnynt yn gyfartal, mae perygl y bydd anghydraddoldeb yn ehangu. Mae ymchwil yn hanfodol i lywio'r polisïau y mae eu hangen arnom i gefnogi ein poblogaethau ac rwy'n falch iawn o weld y pwysigrwydd a roddir ar gynhwysiant ar agenda ymchwil iechyd a gofal.

"Edrychaf ymlaen at weld effaith Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar hyrwyddo ein cenhadaeth tuag at Gymru iachach a thecach."

Defnyddiodd Dr Patel enghreifftiau treialon PRINCIPLE a PANORAMIC yn ystod pandemig Covid-19, lle chwaraeodd Cymru ran sylweddol wrth hybu cyfranogiad cynhwysol. Cafodd hyn ei goffáu gydag arddangosfa gelf arbennig, gyda phortreadau dethol yn cael eu harddangos yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Dr Patel, "Daeth y treialon hyn â chymunedau newydd i mewn, rhai nad oeddent wedi ymgysylltu'n draddodiadol. Roedd Cymru yn stori lwyddiant go iawn, yn gyfrifol am 6% o'r recriwtiaid, er mai dim ond 5% o'r boblogaeth y mae’n ei chynrychioli. Gallwn ddefnyddio hynny fel glasbrint ar gyfer cyfranogiad cynhwysol llwyddiannus, ac ymgorffori cynhwysiant mewn dylunio a chyflwyno ymchwil. Roedd yr arddangosfa gelf a grëwyd yn dilyn y treialon hyn yn dathlu ac yn cynrychioli cyfraniadau'r timau o bob rhan o'r gwledydd datganoledig, gan gynnwys Cymru.

"Mae'r cynllun hwn a'r bartneriaeth hon yn dangos ymrwymiad a rennir i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae hyn nid yn unig yn gysylltiedig ag  ethnigrwydd penodol, ond â chymunedau tawel neu anweledig, fel pobl anabl, a oedd 40% yn fwy tebygol o farw o Covid-19, a chymunedau arfordirol a gwledig. Trwy ymgysylltu â'r gymuned, addysg ddiwylliannol a theilwra negeseuon yn effeithiol, gallwn sicrhau bod ymchwil yn adlewyrchu anghenion a lleisiau y byd go iawn, gyda Chymru mewn sefyllfa dda i fod yn esiampl ddisglair. 

Adleisiwyd y farn hon gan yr Athro Chris George, a ddywedodd, "Rydym yn falch bod ein hymchwilwyr rhwydwaith wedi'u hymgorffori'n ddwfn yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Efallai eu bod yn cael eu hystyried yn  "anweledig" ond mewn gwirionedd maen nhw ym mhobman a ni ydyn nhw. 

"Yr allwedd yw cynnwys pobl mewn gwirionedd, yn hytrach na dim ond cynnal ymchwil arnynt neu amdanynt."

Darllenwch am bwysigrwydd cael barn pobl ifanc mewn ymchwil gan yr aelod o gynnwys y cyhoedd, Praveena Pemmasani, a lawrlwythwch y Cynllun Gweithredu Cynhwysiant llawn.