Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau.

Mae cynllun Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022-25 yn nodi uchelgeisiau a chamau gweithredu dros y tair blynedd i wella ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ein cynllun, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn thema drawsbynciol sy'n golygu bod croesawu pobl a chymunedau amrywiol wrth wraidd ein holl weithgareddau sydd ar y gweill. Mae cydnabod ein poblogaeth amrywiol yn helpu i gynhyrchu ymchwil ystyrlon ac effeithiol i bawb. Mae ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn angenrheidiol er mwyn rhoi lle i bawb ffynnu a llwyddo.

Fel cyllidwr, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymdrechu i greu a chynnal diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u gwerthfawrogi, a lle gallant gymryd rhan, cyfrannu at, ac elwa o’n buddsoddiadau mewn ymchwil.

Felly, rydym yn creu cynllun gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a fydd yn nodi ein gweithgareddau mewn chwe thema – sefydliad cynhwysol, cyllid ymchwil cynhwysol, cyfranogiad ac ymgysylltu cynhwysol, cymuned gynhwysol, cynhwysiant sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac effaith i bawb.

Wrth i'n cynllun gweithredu esblygu, byddwn yn ei alinio â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy'n gosod gweledigaeth ar gyfer 2030 - i wneud newid mesuradwy i fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig trwy fynd i'r afael â hiliaeth. O ran rhyw a rhywedd, lle bo'n briodol, byddwn yn ceisio alinio ag argymhellion y fenter MESSAGE (Tegwch Rhyw ac Rhywedd Gwyddoniaeth Feddygol) yn ogystal â dysgu o arfer da ar draws y gymuned gyllido.

Dyma rai enghreifftiau o waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd:

  • Rydym yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu cyfleoedd cynhwysol i gynnwys y cyhoedd yn eu grwpiau ymchwil neu brosiectau ymchwil unigol, gan gynnwys cynghori ar ddylunio gweithgareddau a hwyluso cyswllt â rhwydweithiau a grwpiau cymunedol priodol.
  • Pan fydd y maes wedi’i nodi yn flaenoriaeth ar gyfer ein galwadau cyllido, byddwn yn cyflymu ceisiadau sy'n canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i'r cam ymgeisio nesaf.
  • Gyda'n Canolfannau ac Unedau Ymchwil a ariennir, rydym yn disgwyl i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael sylw yn eu gweithgareddau ac yn eu holl raglenni gwaith i sicrhau eu bod yn ystyried perthnasedd ac effaith eu gwaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
  • Yn 2024, byddwn yn cynnal ymarfer blaenoriaethu ymchwil ar bwnc o fewn Iechyd Menywod. Pwrpas yr ymarferion hyn yw nodi a hyrwyddo pynciau ymchwil â blaenoriaeth i gyllidwyr a'r gymuned ymchwil drwy wrando ar leisiau pobl sydd â phrofiadau byw ac ymarferwyr.
  • Rydym yn gweithio gyda chyllidwyr cenedlaethol a rhyngwladol i rannu, dysgu a mabwysiadu arfer gorau o ddulliau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella cynwysoldeb ein gwaith a chynhwysiant ein hymchwilwyr a ariennir.
  • Rydym yn casglu data monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rheolaidd gan bob ymgeisydd, i'n helpu i olrhain nifer y ceisiadau am gyllid ymchwil a dderbynnir gan bobl sy'n uniaethu â grwpiau na chaiff eu gwasanaethu'n ddigonol.