Diwrnod Canser y Byd: Gweinidog yn cyfarfod â’r claf cyntaf yng Nghymru i gael brechlyn ymchwiliadol yn erbyn canser y colon a’r rhefr
5 Chwefror
I nodi Diwrnod Canser y Byd ar ddydd Mawrth 4 Chwefror, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles AS, â Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd i gwrdd â Lesley Jenkins, y claf cyntaf yng Nghymru i gael brechlyn ymchwiliadol sydd wedi’i ddylunio i ymladd yn erbyn ei ffurf benodol ei hun ar ganser, fel rhan o astudiaeth ymchwil newydd arloesol a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd Lesley, sy’n 65 oed, wybod bod ganddi ganser y colon a’r rhefr Cam 2 ym mis Ebrill 2024 ar ôl iddi gwblhau prawf sgrinio’r coluddyn am ddim y GIG. Ar ôl iddi gael llawdriniaeth a chemotherapi, cysylltodd Canolfan Ganser Felindre â hi i ofyn a fyddai’n cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain gan Felindre mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r cwmni fferyllol BioNTech. Nod yr astudiaeth yw gwerthuso p’un a all brechlynnau ymchwiliadol atal canser unigolyn rhag dychwelyd.
Mae’r brechlynnau ymchwiliadol yn defnyddio technoleg mRNA, sy’n defnyddio samplau o diwmor claf, a dynnir yn ystod llawdriniaeth, ochr yn ochr â dilyniannu, er mwyn brechu’r claf yn effeithiol rhag ei ganser penodol ei hun.
Dywedodd Lesley: “Roedd cael diagnosis o ganser yn sioc. Do’n i ddim wedi sylwi ar unrhyw symptomau. Yn wir, ro’n i wedi bod yn edrych ymlaen at amser haws ar ôl rhai blynyddoedd anodd i’m teulu.
“Symudodd pethau’n gyflym iawn. Fe ges i golonosgopi a sgan CT a gadarnhaodd fod canser arna’ i ac yna daeth yr holl baratoadau, yr ymchwiliadau, y llawdriniaeth, ac yna’r cemotherapi. Ym mis Ebrill, do’n i ddim yn gwybod fy mod i’n sâl, ac erbyn mis Rhagfyr, ro’n i wedi gorffen cemotherapi.
Clywodd Lesley am y treial pan oedd yn cael cemotherapi a dywedwyd wrthi ei bod hi’n gymwys i gymryd rhan. Ychwanegodd:
Ro’n i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol i helpu’r GIG ac i ddiolch am y gofal a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd tuag ata’ i a fy nheulu.
“Mae’n ddiddorol bod yn rhan o rywbeth sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth i gleifion canser yn y dyfodol. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn treialon yn y dyfodol i ofyn llawer o gwestiynau ac ystyried cymryd rhan.”
Dywedodd yr Athro Rob Jones, Cyd-gyfarwyddwr yr Is-adran Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt yng Nghanolfan Ganser Felindre a phrif ymchwilydd yr astudiaeth: “Nod y treial hwn yw recriwtio cleifion cymwys sydd wedi cael llawdriniaeth a chemotherapi yn barod, a phrofi a yw’r brechlyn ymchwiliadol yn ysgogi’r system imiwnedd i gael gwared ar unrhyw gelloedd canser sy’n weddill, gan wella’r siawns o gael iachâd. Mae’n gyffrous iawn mai Lesley yw’r claf cyntaf yng Nghymru i gael y brechlyn arbrofol hwn, ac rydym yn gobeithio gallu recriwtio mwy o gleifion cymwys wrth i’r treial barhau.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Ein gwaith gyda BioNTech yw un o nifer o ffyrdd rydym yn helpu i sefydlu Cymru fel man lle y gall ein partneriaid yn y diwydiant gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel, a rhoi mwy o ddewis i gleifion ledled Cymru gymryd rhan drwy ein dull Cymru’n Un. Rydym yn falch o fod yn cefnogi amrywiaeth o astudiaethau arloesol, seilwaith ymchwil a staff arbenigol, y bydd gan bob un ohonyn nhw ran i’w chwarae.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles: “Roedd hi’n fraint cael cyfarfod â Lesley heddiw – y person cyntaf yng Nghymru i gael y brechlyn arbrofol hwn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am hynt y brechlyn ac at fwy o bobl yn dilyn ei harweiniad.
“Rwyf eisiau i Gymru arwain y ffordd mewn ymchwil arloesol sydd â’r potensial i wella gofal a thriniaeth canser i bobl yng Nghymru a ledled y DU. Mae treialon clinigol yn chwarae rhan allweddol wrth ddeall mwy am ganser a sut y gallwn ni drin amrywiaeth eang o gyflyrau. Roeddwn i’n falch o fod yn Felindre ar Ddiwrnod Canser y Byd.”
Darllenwch fwy am ein gwaith gyda BioNTech a’i nod o hybu seilwaith treialon clinigol Cymru yma.