Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget yn cyflwyno tystysgrifau i enillwyr Gwobrau Effaith 2022

Ymchwilwyr talentog yng Nghymru yn gweithio ar ymchwil sy’n newid bywydau yn cael eu cydnabod yn ystod cynhadledd ymchwil flynyddol

19 Hydref

Mae ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi eu cydnabod am eu gwaith arloesol wrth ddefnyddio data iechyd mewn ymateb i’r pandemig, canlyniadau gofalwyr di-dâl, cwsg ac iechyd meddwl pobl ifanc, a chynnwys y cyhoedd mewn gwahanol gamau o ymchwil.

Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022, a gyflwynwyd yn ystod ei gynhadledd flynyddol ar 13 Hydref, yn cydnabod cyflawniadau anhygoel y gymuned ymchwil yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Eleni, cafodd pedwar ymchwilydd nodedig eu hanrhydeddu o dan dri chategori gwobrwyo: Gwobr Effaith, Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol, a Gwobr Cynnwys y Cyhoedd.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Bu'n flwyddyn anhygoel i’r gymuned ymchwil gan fod cymaint wedi’i gyflawni. Mae'r gwobrau hyn yn gyfle gwych i gydnabod ymdrechion rhyfeddol yr ymchwilwyr a helpodd i adfer ymchwil bwysig a mynd i'r afael â heriau bywyd go iawn wrth i ni ddod drwy gyfnod gwaethaf y pandemig.

Da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwobrau eleni a hefyd i’r paneli dyfarnu am eu cyfraniadau proffesiynol a gwerthfawr.”

Gwobr Effaith - Cyd-enillwyr: ‘Ymateb ‘Cymru’n Un’ i COVID-19, Banc Data SAIL a phartneriaid’ a ‘Prosiect ymchwil dyfodol gofalwyr di-dâl yng Nghymru’

Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwahaniaeth y mae ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ei wneud i fywydau bob dydd pobl. Anogwyd y beirniaid i weld ehangder yr ymchwil a gynhelir, a’r effaith a’r dylanwad y gallai’r ymchwil ei gael ar gleifion, ymarfer a pholisïau yng Nghymru. Roedd dau gais hynod a phenderfynodd y beirniaid anrhydeddu'r ddau ohonynt.

Ymateb ‘Cymru’n Un’ i COVID-19, Banc Data SAIL a phartneriaid

Derbyniodd Ashley Akbari, sy’n Athro Cysylltiol yn Banc Data SAIL, y Wobr Effaith ar ran Banc Data SAIL a phartneriaid Ymateb ‘Cymru’n Un’ i COVID-19. Dywedodd Ashley: “Dyma gydnabyddiaeth wirioneddol o ymdrechion y tîm cyfunol. Mae ein prosiect yn cynnwys cydweithredu amlddisgyblaethol rhwng y llywodraeth, llunwyr polisïau a’r cyhoedd. Rydym yn falch o hyrwyddo gwyddoniaeth tîm, gan gyfleu ei phwysigrwydd a'i gwerth i'r gymuned ehangach.”

Disgrifiodd y beirniaid gais Banc Data SAIL a phartneriaid Ymateb ‘Cymru’n Un’ i COVID-19 yn ‘rhyfeddol’, gan ddangos effaith ar draws pandemig byd-eang. 

Gwyliwch Ashley yn siarad am ei waith:

Prosiect ymchwil dyfodol gofalwyr di-dâl yng Nghymru 

Derbyniodd Fangzhou Huang, Prif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe y Wobr Effaith ar ran prosiect ymchwil dyfodol gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Wedi’i ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Dyfodol Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ymgysylltu â’r GIG, Gofalwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Huang:

Mae’n fraint i ni dderbyn y wobr hon. Mae hon yn wobr i bawb a gefnogodd ein prosiect. Rydym yn hapus i weld ein prosiect yn cael effaith ar bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan helpu'r grwpiau agored i niwed yn y gymuned.”

Dywedodd y beirniaid fod y prosiect wedi dangos effaith wirioneddol a chydweithredu mewn maes sy'n cyd-fynd â pholisïau pwysig Llywodraeth Cymru. 

Gwyliwch Huang yn siarad am brosiect ymchwil dyfodol gofalwyr di-dâl yng Nghymru:

Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol - Dr Katie Lewis

Rhoddwyd Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol 2022 i Dr Katie Lewis, Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol Syr Henry Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r wobr hon yn cydnabod y rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, sydd eisoes yn gwneud cyfraniad eithriadol i’w maes a/neu’n datblygu fel arweinwyr y dyfodol sy’n dod i’r amlwg.

Dywedodd Katie:

Mae’n anrhydedd mawr i mi gael Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r wobr hon yn fy ngalluogi i rannu canfyddiadau fy ymchwil mewn cynhadledd a chodi ymwybyddiaeth o'r maes ymchwil hwn.”

Disgrifiodd y beirniaid Katie yn ‘ymgeisydd cryf iawn’ ac maent yn credu y gallai ei hymchwil ym maes cwsg ac iechyd meddwl gael effaith enfawr – seren ymchwil y dyfodol yn wir. 

Gwyliwch Katie yn siarad am ei gwaith:

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd – Astudiaeth Meddygon Teulu mewn Adrannau Achosion Brys

Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2022 i’r astudiaeth ‘Meddygon Teulu mewn Adrannau Achosion Brys’, sy’n cydnabod y defnydd gorau posibl o gynnwys y cyhoedd mewn astudiaeth ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, gan ddefnyddio Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd.

Derbyniodd Julie Hepburn, aelod o astudiaeth cynnwys y cyhoedd, y wobr ar ran yr astudiaeth, a gyflwynwyd gan Ganolfan PRIME Cymru.

Nod yr astudiaeth yw gwerthuso sut mae meddygon teulu yn gweithio mewn Adrannau Achosion Brys ym mis Medi 2022.  Yn ystod pob cam ymchwil, o sefydlu'r astudiaeth i'w gwblhau, mae cyfranwyr cyhoeddus wedi bod yn aelodau cyfartal o’r tîm.

Dywedodd Bridie Angela Evans, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd yn Canolfan PRIME Cymru:

Rwy’n falch iawn ac wrth fy modd bod ein gwaith wedi’i gydnabod fel hyn. Rwy’n gobeithio ein bod wedi dangos i bobl eraill sut y gallan nhw sicrhau yn wirioneddol fod pobl yn cael eu cynnwys yn eu timau ymchwil, croesawu’r rolau y gall aelodau’r cyhoedd eu cyflawni drwy gydweithrediad, a gwerthfawrogi’r cyfraniadau y mae’r unigolion medrus a brwdfrydig hyn yn eu gwneud i gynnal ymchwil o ansawdd da.”

Mae'r beirniaid yn credu bod hon yn enghraifft flaenllaw o'r dylanwad y gall cynnwys y cyhoedd ei gael ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yn wych gweld y tîm yn croesawu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, ac yn canolbwyntio ar gasglu a mesur yr effaith roedd cynnwys y cyhoedd yn ei chael drwy gydol yr astudiaeth.

Gwyliwch Bridie yn siarad am yr astudiaeth:

Bydd enillydd pob categori yn cael cyllid gwerth hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o’u sgiliau ymchwil.

Dywedodd Judith Paget CBE, Prif Weithredwr GIG Cymru, a gyflwynodd y gwobrau, fod y dewis cryf o ymgeiswyr ac ansawdd y ceisiadau eleni wedi gwneud argraff arbennig o dda ar y beirniaid, a chafodd llawer o'r ceisiadau ganmoliaeth uchel.

Canmoliaeth Uchel:

Gwobr Effaith:

Prosiect ymchwil Dr Claire Nollet, cyd-ddylunio rhaglen hyfforddi iechyd meddwl ar gyfer staff rheng flaen yn y sector colli golwg.

Seren Ymchwil y Dyfodol 

Dr Julie Peconi, Uwch-swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe

Adam Williams, Rheolwr Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am y siaradwyr a chyflwyniadau o’r gynhadledd eleni.