Cynulleidfa yn y gynhadledd

Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022

Croeso i’n 8fed cynhadledd flynyddol a gynhelir ar 13 Hydref 2022 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. 

Thema digwyddiad eleni yw Ble fydden ni heb ymchwil? 

Byddwn yn arddangos ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n torri tir newydd yn ogystal ag ymdrin â phynciau pwysig fel newid polisi ac ymarfer, cynnwys y cyhoedd, a meithrin capasiti ymchwil. 

Byddwn hefyd yn dathlu gwaith y gymuned ymchwil drwy ein Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gyflwynir ar ddiwedd y gynhadledd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #ResearchWales22 

Ailymweld â Chynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022

Ymchwil arloesol: y tu hwnt i’r fainc

Trafodaeth banel yn archwilio effaith gwyddorau biofeddygol ac ymchwil gofal cymdeithasol – o’r fainc i ochr y gwely. 

Cadeirydd: Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Aelodau’r panel: 

  • Dr Diane Seddon, Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 
  • Yr Athro Andrew Sewell, Athro, Is-adran Heintiau ac Imiwnedd, Prifysgol Caerdydd 
  • Brendan Healy, Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus, Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Martin Rolph, Cyfrannwr Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd

Gwella ansawdd a chysondeb cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio chwe Safon y DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd a sut y gellir eu defnyddio i wella prosesau cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cyfle i rannu syniadau, dysg ac arferion gorau. 

Cadeirydd: Peter Gee, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Darllenwch ganfyddiadau'r gweithdy

Sut ydym ni’n adeiladu capasiti ymchwilio ac yn datblygu ymchwilwyr? 

Dyma gyfle i glywed cyflwyniadau gan ymchwilwyr blaenllaw am ddatblygu gyrfa ymchwilwyr a meithrin gallu ymchwil yng Nghymru.  Bydd y panel o siaradwyr hefyd yn trafod: Beth sy'n gweithio'n dda ym maes datblygu gyrfa ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Sut mae cynwysoldeb ac amrywiaeth yn cael ei hyrwyddo ar draws llwybr gyrfa'r ymchwilydd? 

Cadeirydd: Yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr, Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Siaradwyr: 

  • Yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr, Canolfan Treialon Ymchwil ac Uwch Arweinydd Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 
  • Dr Martin Elliott, Cymrawd Ymchwil, CASCADE 
  • Jayne Goodwin, Pennaeth Cyflawni Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Gwella sut rydym yn cyflawni ymchwil glinigo

Trafodaeth banel i rannu ac archwilio safbwyntiau ynglŷn â beth fydd yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn cyflwyno ymchwil yn y dyfodol. 

Cadeirydd: Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Aelodau’r panel: 

  • Dr Janet Messer, Awdurdod Ymchwil Iechyd 
  • Yr Athro Andrew Carson-Stevens, Arweinydd Arbenigol Gofal Sylfaenol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 
  • Dr Jennifer Harris, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) 
  • Dr Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Dr Andrea Longman, aelod lleyg y Pwyllgor Moeseg Ymchwil 

Gair o groeso i’r prynhawn - Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru 

Ein hymchwil â chyllid: gwneud gwahaniaeth 

Bydd y gweithdy hwn yn arddangos rhai o’r prosiectau effeithiol ac ymchwilwyr dawnus sydd wedi cael cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan yr ymchwilwyr sy’n mynd i’r afael â chwestiynau ag iddynt oblygiadau pwysig i bolisi, arfer a budd y cyhoedd. Bydd pynciau’n cynnwys: dementia; gofal brys; canser; a defnyddio technoleg mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Cadeirydd: Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Llywodraeth Cymru 

Siaradwyr: 

  • Dr Ashra Khanom, Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Abertawe 
  • Dr Georgina Powell, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd 
  • Gill Toms, Swyddog Ymchwil a Datblygu, Prifysgol Bangor 
  • Yr Athro Dean Harris, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Gweithredu a rhannu ymchwil yn effeithiol 

Bydd y gweithdy hwn yn arddangos ffyrdd arloesol a diddorol o helpu i gael ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar waith. Gwrandewch ar gyflwyniadau gan siaradwyr o bob rhan o faes iechyd a gofal cymdeithasol mewn sesiwn holi ac ateb. 

Cadeirydd: Dr Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data a Deallusrwydd, Gofal Cymdeithasol Cymru 

Siaradwyr: 

  • Candace Imison, Cyfarwyddwr Cyswllt Tystiolaeth a Rhannu, Canolfan Ymgysylltu a Rhannu NIHR  
  • Rebekah Vincent-Newson, Rheolwr Ymchwil a Thystiolaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru 
  • Nick Andrews, Swyddog Datblygu Ymchwil ac Ymarfer, Datblygu Arfer wedi’i Gyfoethogi gan Dystiolaeth (DEEP)  
  • Dr Micaela Gal, Arweinydd Paratoi Gwybodaeth, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru 

 Archwilio’r berthynas rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer

Ymunwch â’r Athro Annette Boaz a’r Athro Steve Martin ar gyfer y sesiwn Trafodaeth hon wrth iddynt archwilio’r berthynas rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer.

Siaradwyr:

  • Yr Athro Annette Boaz, Athro Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain 
  • Yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 

Gwobrau a diwedd y gynhadledd

Sylwadau cloi a chyflwyno Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022, i ddathlu cyflawniadau’r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. 

Cyflwynydd: Judith Paget CBE, Prif Weithredwr, GIG Cymru

Darllenwch am yr ymchwilwyr talentog yng Nghymru sy'n gweithio ar ymchwil sy'n newid bywydau a enillodd yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

-

Sophia Gardens, Cardiff