
Adnodd newydd 'Google Earth ar gyfer genomeg' yn cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr yng Nghymru
1 Awst
Gallai adnodd newydd – sy’n cael ei ddisgrifio fel Google Earth ar gyfer genomeg – drawsnewid sut mae gwyddonwyr yn delweddu a dadansoddi data genomeg gan helpu i ddatblygu technegau ymchwil canser.
Mae Dr Kez Cleal, Darlithydd mewn Biowybodeg Canser, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, wedi datblygu meddalwedd newydd, Genome-Wide (GW), a fydd yn caniatáu i ymchwilwyr archwilio setiau data enfawr yn gyflymach nag erioed, gan brosesu 100 gwaith yn gyflymach na'r offer presennol.
Cafodd ymchwil Dr Cleal ei chefnogi gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi yn y papur 'GW: ultra-fast chromosome-scale visualisation of genomics data' yn Nature Methods.
Dywedodd Dr Cleal: "Mae'r datblygiad arloesol hwn yn arbennig o bwysig ym maes ymchwil canser, lle mae deall newidiadau strwythurol ar raddfa fawr yn y genom yn allweddol i ddatgloi'r mecanweithiau y tu ôl i'r clefyd.
"Gyda GW, rydyn ni'n gallu delweddu yn ddeinamig, newidiadau ar raddfa genomau, gan ein galluogi i archwilio a deall strwythurau genetig cymhleth mewn ffyrdd nad oedd yn bosibl o'r blaen. Mae hyn yn agor y drws i ymchwil canser mwy effeithlon, gan ein helpu i nodi newidiadau genetig o ddiddordeb yn y genom canser yn gyflym.
Mae porwyr genomau presennol yn amhrisiadwy ar gyfer archwilio newidiadau genetig ond nid oes ganddynt y cyflymder y mae llyfrgelloedd a fframweithiau perfformiad uchel yn ei gynnig.
Yn benodol, mae adnoddau presennol yn cael trafferth i ddelweddu rhannau genomig mawr, sy'n hanfodol wrth ddeall ad-drefniadau genetig cymhleth.
Mae'r feddalwedd GW yn galluogi arsylwi ar newidiadau genetig mewn amser real, gan gyflymu tasgau ymchwil hanfodol.
Ychwanegodd Dr Cleal: "Mae deall y newidiadau genetig sy'n sail i ganser yn hanfodol wrth ddarganfod diagnosau o ganserau newydd, adnabod risg, a thriniaethau ar gyfer y dyfodol. Mae Genome-Wide yn gam ymlaen mewn adnoddau a all helpu ymchwilwyr i gael dealltwriaeth ddyfnach o geneteg canser."
Ariannwyd ymchwil Dr Cleal gan Cancer Research UK hefyd.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion ymchwil iechyd a gofal diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch.