CYCC logo

Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC)

Yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru rydym yn gwneud ac yn cefnogi ymchwil o’r radd flaenaf, o fainc y labordy drwodd i erchwyn gwely’r claf ac i mewn i’r gymuned. Rydym yn gweithio i wella deilliannau i gleifion ar bob cam, o’r diagnosis cynnar drwy driniaeth i oroesi a gofal diwedd oes, gyda phwyslais ar gynyddu triniaethau a chynnal ansawdd bywyd fel ei gilydd. Rydym yn canolbwyntio’n bennaf ar feysydd angen clinigol er budd cleifion a’r cyhoedd. 

Rydym yn parhau i adeiladu cymuned ymchwil canser gynaliadwy sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru er mwyn gwneud cyfraniad unigryw i’r ymdrech fyd-eang i leihau baich canser. Rydym yn datblygu ymyriadau newydd i wella’r deilliannau i gleifion, o fewn GIG Cymru ond hefyd drwy wasanaethau gofal iechyd eraill ledled y byd.