Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd strategaethau cyflenwi addysg amgen ar gyfer addysg feddygol, ddeintyddol, nyrsio a fferyllol israddedig ac ôl-raddedig yn ystod y pandemig COVID-19

Pa mor effeithiol oedd y gwahanol ddulliau o addysgu a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig ar gyfer addysg myfyrwyr meddygol, deintyddol, nyrsio a fferylliaeth?

Cafodd y pandemig COVID-19 effaith ddifrifol ar y ffordd o ddarparu addysg mewn colegau a phrifysgolion. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd y mae eu haddysg barhaus yn hanfodol i gynnal gweithlu gofal iechyd hyddysg. Roedd yn rhaid newid y ffordd o addysgu fel ymateb brys i’r pandemig. Newidiodd y ffordd o addysgu o ddulliau wyneb yn wyneb i ddulliau cwbl ar-lein (dysgu o bell neu ddysgu rhithwir) neu’n rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol ar-lein (dysgu cyfunol). Nid oedd athrawon na myfyrwyr wedi cynllunio ar gyfer hyn. Mae’r adolygiad hwn yn edrych i weld a oedd y myfyrwyr hyn wedi gallu dysgu’r wybodaeth oedd ei hangen i wneud eu gwaith yn dda ac i weld beth y gallwn ni ddysgu o’r profiad hwn yn y dyfodol.

Mae’n bwysig cofio mai isel oedd ansawdd yr astudiaethau a ddaeth i law, ac mai niferoedd bach o bobl oedd dan sylw.

Yr hyn a ddarganfuwyd, o gymharu hyn â’r addysgu cyn y pandemig COVID-19:

  • Gwerthfawrogwyd yr addysgu o bell, a llwyddwyd i ddysgu, ond nid yw mor glir ai dull rhithwir neu wyneb yn wyneb sydd orau.
  • Ym maes meddygaeth, roedd myfyrwyr yn bositif ynglŷn â’r galluoedd a’r hyder roedden nhw wedi’u hennill a gallen nhw ddangos sgiliau pwytho anafiadau o ganlyniad i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein. Fodd bynnag, roedd lefelau gwybodaeth a chanlyniadau arholiadau myfyrwyr a addysgwyd gan ddefnyddio dulliau rhithwir neu gyfunol yn waeth o’u cymharu â dulliau wyneb yn wyneb.
  • Ym maes meddygaeth, roedd defnyddio dulliau a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio ag athrawon yn well na defnyddio fideos neu gyflwyniadau.
  • Ym maes deintyddiaeth, roedd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth o ddysgu o bell ond roedden nhw’n teimlo bod eu sgiliau ymarferol a’u sgiliau pobl yn is nag o ddysgu yn y cnawd.
  • Ym maes nyrsio, roedd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth o ddysgu o bell ac roedden nhw’n teimlo bod lefel eu cymhwysedd yn debyg, ond roedden nhw’n teimlo’n fwy hyderus pan roedd y dysgu a’r asesu’n digwydd ar-lein.
  • Ym maes fferylliaeth, roedd dysgu ar-lein yn cael ei gysylltu â sgiliau uwch ond gwybodaeth is. Roedd asesiadau’r myfyrwyr eu hunain o’u cymhwysedd a’u hyder yn debyg rhwng y rheini a oedd yn derbyn addysg ar-lein a’r rheini a oedd yn derbyn addysg wyneb yn wyneb cyn y pandemig.

Goblygiadau i bolisi ac arfer

  • Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi dysgu o bell ac mae’n galluogi addysgu a dysgu parhaus yn y tymor byr mewn sefyllfa argyfwng.
  • Efallai y bydd angen sesiynau ymarferol ychwanegol ar ôl yr argyfwng i roi sylw i anghenion dysgu ar gyfer rhai grwpiau myfyrwyr sydd dan anfantais.
  • Mae’n ymddangos bod y newid o’r dulliau addysgu traddodiadol i ddulliau addysgu ar-lein yn effeithio ar berfformiad myfyrwyr mewn arholiadau, yn enwedig yn achos pynciau ymarferol eu sail ym meysydd deintyddiaeth a meddygaeth.
    • Nid yw’r dystiolaeth sydd ar gael yn ddigon i ni ddod i unrhyw gasgliadau ynglŷn â myfyrwyr gofal iechyd mewn arbenigeddau eraill.
    • Nid yw’n glir a fyddai dysgu o bell cynlluniedig, yn hytrach na dibynnu ar addasiadau mewn argyfwng, yn fwy effeithiol.
    • Mae angen ymchwil bellach i ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi yn y maes hwn.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00004