Adolygiad cyflym o strategaethau i gefnogi dysgu a llesiant ymhlith dysgwyr 16-19 oed sydd wedi cael amhariad sylweddol ar eu haddysg o ganlyniad i’r pandemig COVID-19

Pa ddulliau cefnogi allai helpu pobl 16-19 oed i symud ymlaen â’u dysgu a gwella’u llesiant yn ystod y pandemig? 

Mae’r pandemig COVID-19 wedi amharu’n sylweddol ar addysg ac wedi effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl ifanc. Mae’r effaith fwyaf wedi bod ar ddisgyblion o grwpiau dan anfantais ac agored i niwed. Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar sut i gefnogi dysgu a llesiant myfyrwyr 16-19 oed sydd wedi gweld bylchau sylweddol yn eu haddysg ac sydd mewn amser hanfodol yn eu bywydau wrth iddyn nhw symud i astudiaeth bellach neu gyflogaeth. 

Ni ddaeth yr adolygiad o hyd i unrhyw dystiolaeth o ba mor effeithiol y mae cefnogaeth wedi bod i ddysgwyr ifanc yn ystod y pandemig ac felly mae’n edrych ar y dystiolaeth o sut y gwnaeth ffyrdd gwahanol o gefnogi pobl ifanc weithio yn ystod cyfnodau o amhariad cyn Covid.  

Roedd y canlynol o gymorth i ddysgwyr ifanc (3-18 oed): 

  • Mwy o gefnogaeth un-i-un neu mewn grŵp bach  

  • Mwy o oriau o addysgu, fel diwrnod ysgol hirach neu yn ystod y gwyliau 

  • Cael eu helpu i ddeall sut maen nhw’n meddwl ac yn dysgu 

  • Cael eu helpu i allu rheoli eu hemosiynau a chanolbwyntio ar ddysgu 

  • Gwersi mathemateg a Saesneg ychwanegol 

Yn UDA, roedd darparu cymorth ariannol a gwybodaeth am golegau wedi helpu dysgwyr â photensial uchel ond o deuluoedd ar incwm isel i fynd ymlaen i addysg uwch. 

Nid oedd cymryd myfyrwyr allan o wersi allweddol i gael dosbarthiadau Saesneg ychwanegol wedi helpu. Nid yw’n hysbys a yw darparu cymorth addysgu ychwanegol ar gyfer y grŵp cyfan neu ar-lein o unrhyw fudd. 

Roedd y canlynol yn gwella llesiant dysgwyr ifanc o bob oedran: 

  • Cwnsela 

  • Ymarfer corff  

  • Cymryd camau i wella cwsg 

  • Ymwybyddiaeth ofalgar (ymarferion fel anadlu dan reolaeth a myfyrio ar gyfer lleihau straen) 

Nodwyd bod nodi’r angen am help meddygol, a gallu cael gafael ar yr help hwnnw yn rhwydd, o fudd i’r grŵp oedran 16-19. 

Nid yw’n glir a oedd therapi i atal afiechyd meddwl neu wersi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, fel hunanreolaeth a chyd-dynnu’n dda â phobl eraill, yn helpu. Nid yw’n hysbys pa wahaniaeth y mae cefnogaeth teulu a ffrindiau’n ei wneud. 

Goblygiadau i Bolisi  

Yr unig dystiolaeth a oedd ar gael o’r math o gefnogaeth sy’n gweithio i ddysgwyr 16-19 oed wedi dod o gyfnod cyn y pandemig. Mae angen i ni ddarganfod a fydd y mathau hyn o gefnogaeth hefyd yn gweithio yn ystod y pandemig ac wedyn. 

Mae cael cefnogaeth sy’n targedu dysgwyr o’r cefndiroedd mwyaf amddifad yn gwella’u cynnydd yn sylweddol. 

Darllenwch yr adroddiad llawn

 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00016