Ali Al-Hussaini

Mr Ali Al-Hussaini

Cyd-arweinydd Arbenigedd ar gyfer y Glust, y Trwyn a’r Gwddf

Mae Mr Al-Hussaini yn Llawfeddyg Ymgynghorol y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (ENT) yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Enillodd ei gymhwyster yn 2009 gyda Rhagoriaethau yn y Gwyddorau Sylfaenol ac Ymarfer Clinigol o Goleg Imperial Llundain. Mae Mr Al-Hussaini yn hynod frwd ynglŷn ag ymchwil o ansawdd uchel, gyda 36 o gyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid hyd yma a phortffolio ymchwil ENT rhyngwladol cryf. Mae’n Arweinydd Ymchwil a Datblygu ar gyfer yr Adran ENT ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae ganddo amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil a chydweithrediadau ag unedau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys gwaith arloesol gyda Phrifysgol Caerdydd ar sut y mae’r system imiwnedd yn rhyngweithio â chanser y pen a’r gwddf, a sut y gallai hyn ddarparu sail ar gyfer triniaethau newydd.

Mae Mr Al-Hussaini wedi traddodi nifer o brif ddarlithoedd rhyngwladol ac wedi derbyn nifer o grantiau a gwobrau am ymchwil eithriadol. Mae’n Ben Ymchwilydd ar gyfer nifer o astudiaethau clinigol, gan gynnwys astudiaeth Cofrestrfa Genedlaethol Ymyrraeth y Llwybr Anadlu ac astudiaeth OptiNose3205.


Darllenwch fwy am eu gwaith:

Faculty Learning and Development Day (Ebrill 2023)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Ali

Ffôn: 02920742583

E-bost

Twitter